Ddechrau Chwefror 2023, aeth chwech o'n gwirfoddolwyr o fenter Cymru Ifanc ar daith i Genefa i gwrdd â Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Ochr yn ochr â phobl ifanc o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a Jersey, cawsant ddau gyfarfod â’r pwyllgor, lle cawsant gyfle i fynegi eu barn am gyflwr hawliau plant yng Nghymru, a chynnig argymhellion ar gyfer yr hyn y maent yn meddwl y dylid ei wneud i wella pethau.

ywgeneva.png
 

Ochr yn ochr â staff Cymru Ifanc a Chomisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, cafodd pob un o’r bobl ifanc gyfle i ddweud ei ddweud ar faterion sydd o bwys iddynt, o iechyd meddwl a llesiant i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Cyfeiriodd gwirfoddolwyr Cymru Ifanc ac amddiffynwyr hawliau plant eraill o bob rhan o’r Deyrnas Unedig at yr argyfwng costau byw.

Bydd pwyllgor y Cenhedloedd Unedig bellach yn cyflwyno'r argymhellion hyn i Lywodraeth Cymru a llywodraethau datganoledig eraill yn y DU a Jersey, fel y gall sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael mynediad i'w hawliau yn y ffordd y dylent o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Hoffai tîm Cymru Ifanc ddiolch i’r holl bobl ifanc a gymerodd ran yn y gwaith hwn, yn enwedig o gofio fod y daith hon yn ffrwyth llafur misoedd o waith ar arolygon y tu ôl i'r llenni, ac adroddiad a gyflwynwyd i’r pwyllgor – gellir gweld hwn yma.
Da iawn, bawb!

I gael rhagor o fanylion am y daith i Genefa, darllenwch yr adroddiad yma.

Os hoffech ymuno â Cymru Ifanc fel gwirfoddolwr fel y gallwch chithau gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous fel hyn, cymerwch gip olwg ar y dudalen recriwtio gwirfoddolwyr ar ein gwefan – https://www.childreninwales.org.uk/jobs/young-volunteers-recruiting-now/. Yma cewch ragor o wybodaeth a chael gwybod sut i gofrestru.