Mynd i'r afael ag Effaith Tlodi ar Rhaglen Addysg

Prosiect

Mynd i'r afael ag Effaith Tlodi ar Rhaglen Addysg
 

Dyddiad Cychwyn

N/A
 

Manylion Cyswllt

Kate Thomas - Senior Development Officer - kate.thomas@childreninwales.org.uk
Abi Bryant – Information Officer - abi.bryant@childreninwales.org.uk

General enquiries 
Pupilpoverty@childreninwales.org.uk

 

Gwyddom fod 4 o bob 10 o'n plant a'n pobl ifanc yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac mae hynny'n effeithio ar eu bywydau dyddiol, eu haddysg a chyfleoedd bywyd yn y dyfodol.

Mae'r Rhaglen Mynd i'r Afael ag Effaith Tlodi ar Addysg, a gynhelir gan Plant yng Nghymru, yn cynnig camau ymarferol ac atebion i chi ar gyfer dull ysgol gyfan i helpu i gael gwared ar rwystrau a 'chost' dysgu yn eich ysgol.

Ariennir y Rhaglen gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'u hymrwymiad i fynd i'r afael â lefelau cynyddol o dlodi plant ac i wella iechyd meddwl, lles emosiynol a chyrhaeddiad pob plentyn yng Nghymru.

Gall lleoliadau ysgol a chostau sy'n gysylltiedig â'r diwrnod ysgol fod yn broblem i lawer o ddysgwyr a'u teuluoedd. Nod y rhaglen yw cefnogi ysgolion a lleoliadau addysgol ledled Cymru i ystyried a gweithredu newid drwy Ganllawiau Pris Tlodi Disgyblio

The Price of Pupil Poverty | GOV.WALES

Rydym wedi gweithio gyda nifer o ysgolion ledled Cymru i weithredu'r canllawiau gyda llawer o lwyddiant.

Rydyn ni wedi gweld y broses yn hawdd ei dilyn ac wedi cael cefnogaeth drwyddi. Cafwyd adborth cadarnhaol gan rieni ynghylch y newidiadau rydym wedi'u gwneud ers cymryd rhan ac rydym yn parhau i weithio ar gamau gweithredu sydd wedi codi yn dilyn gwerthuso'r cynllun gweithreduYsgol Gynradd Liswerry

Fel ysgol, roeddwn i'n meddwl ein bod ni'n cefnogi pob dysgwr, ond trwy werthuso ymarfer fe sylweddolon ni fod cymaint mwy y gallen ni ei wneud i helpu ein teuluoedd ac yn y pen draw cefnogi ein disgyblion i fod mewn lle sy'n barod i ddysgu​​​​​​​ Ysgol Gynradd Penfro​​​​​​​​​​​​​​

Er mwyn cynyddu cyfranogiad mwy o ysgolion ledled Cymru, mae gan Plant yng Nghymru y cynnig canlynol i'ch galluogi i fynd i'r afael ag effaith tlodi disgyblion yn eich lleoliad ysgol:

· Pecyn gwybodaeth a mynediad at nifer o adnoddau i helpu i weithredu'r canllawiau. Mae hyn yn cynnwys y rhestr wirio, templed cynllun gweithredu, cynllun gweithredu enghreifftiol, canllaw 'sut mae gwneud' a templed arolwg rhieni

· Cyfarfod cychwynnol lle bo angen, gyda swyddog Plant yng Nghymru, i gynghori ar sut i ddefnyddio’r adnoddau a chanllawiau yn y ffordd orau

· Sesiwn hyfforddi lle bo angen ar gyfer staff ar dlodi plant yng Nghymru a sut i ddefnyddio'r canllawiau

· Mynediad i Blatfform Cymunedol i rannu arfer gorau gydag ysgolion eraill
 

Cofrestrwch i'r rhaglen Taclo Effaith Tlodi ar Addysg:
 

https://forms.office.com/e/znbmrnzNQY