Plant sydd â phrofiad o ofal

Plant sydd â phrofiad o ofal yw plant sydd naill ai’n derbyn gofal gan y wladwriaeth o dan ddeddfwriaeth genedlaethol Cymru, neu blant a fu’n derbyn gofal gan y wladwriaeth yn y gorffennol. Mae cyfraith Cymru yn diffinio’r plant hyn fel Plant sy’n Derbyn Gofal neu Ymadawyr Gofal. Mae nifer y plant sy’n destun achosion gofal wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda’r mwyafrif yn derbyn gofal oherwydd camdriniaeth neu esgeulustod.  Yn gyffredinol, mae eu deilliannau addysg a iechyd yn is na’u cyfoedion, ac mae llawer ohonyn nhw’n teimlo’n ynysig ac yn parhau i fod yn agored i niwed yn ystod eu cyfnod mewn gofal. Er gwaetha’r gwelliannau i’r system ofal, mae llawer o blant yn mynd ymlaen i gael profiadau gwael ar ôl gadael gofal, gan gynnwys problemau sy’n ymwneud â thlodi, tai a chyflogaeth.

Mae gwaith Plant yng Nghymru yn y maes hwn yn cynnwys:

  • Ymgysylltu’n rhagweithiol â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill yng nghyswllt datblygu deddfwriaeth a pholisïau sy’n effeithio ar blant sydd â phrofiad o ofal

  • Gweithio mewn partneriaeth a darparu hyfforddiant a gweithdai i gefnogi ein haelod-sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer plant sydd â phrofiad o ofal

  • Rheoli prosiectau sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â phlant sydd â phrofiad o ofal ac yn meithrin eu gallu
  • Llywio a chefnogi ymchwil ac ymholiadau allanol i wasanaethau ar gyfer plant sydd â phrofiad o ofal
  • Ymgysylltu â’r materion sy’n effeithio ar blant sy’n cael eu lletya ar lefel Ewropeaidd, trwy ein gwaith gyda Eurochild
  • Darparu gwybodaeth a gwasanaeth cyfeirio ar gyfer ein haelod-sefydliadau ynghylch gwasanaethau ar gyfer plant sydd â phrofiad o ofal   

  • Llunio adroddiadau ac adnoddau

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn, cysylltwch â: Sean O’Neill (Cyfarwyddwr Polisi), e-bost: sean.oneill@childreninwales.org.uk