Diogelu

Claire Sharpe.png     Ein Person Diogelu Dynodedig yw Claire Sharp.

Os ydych chi’n gwneud gwaith ar ran Plant yng Nghymru ac mae gennych chi bryder diogelu, dilynwch bolisi a gweithdrefnau diogelu’r Sefydliad, os gwelwch yn dda, sydd i’w gweld isod.

   Polisi a Gweithdrefn Diogelu 

Os byddwch yn pryderu bod rhywun mewn perygl uniongyrchol o gael eu cam-drin, dylech gysylltu â’r heddlu ar unwaith. Yna dylech chi gwblhau ffurflen Cofnod o Bryder  i gofnodi’r digwyddiad, a’i anfon i safeguarding@childreninwales.org.uk
Bydd eich ffurflen yn cael ei hanfon ymlaen yn awtomatig at Claire Sharp. Yn achos unrhyw bryderon diogelu eraill, nad ydynt yn faterion brys, waeth pa mor fychan ydynt, dylech hefyd lenwi ffurflen Cofnod o Bryder a’i hanfon i’r un cyfeiriad e-bost, gan y gallai hynny helpu i benderfynu a oes angen darparu cymorth neu gymryd camau. Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am y broses hon, neu os nad ydych chi’n sicr pa gamau i’w cymryd, cysylltwch â Claire yn safeguarding@childreninwales.org.uk neu ar 07494208637.

Os hoffech chi ddeall mwy am ddiogelu plant ac oedolion sydd ‘mewn perygl’ yng Nghymru, lawrlwythwch ap Gweithdrefnau Diogelu Cymru i’ch dyfais, a bydd yr holl wybodaeth angenrheidiol ar flaenau eich bysedd. https://www.safeguarding.wales, gallwch chi hefyd lawrlwytho’r ap i’ch ffôn symudol.

Os ydych chi’n pryderu am blentyn neu berson ifanc yn eich teulu neu eich cymuned, gallwch chi ffonio 101 i roi gwybod am unrhyw faterion. Os ydych chi’n pryderu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol o ddioddef niwed, ffoniwch 999 os gwelwch yn dda.

Os hoffech chi roi gwybod am bryder diogelu ynghylch plentyn neu berson ifanc, gallwch chi gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol yn eich ardal. Mae’r wybodaeth gyswllt ar gael trwy’r byrddau diogelu lleol:

Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro

Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru Diogelu plant ac oedolion

Cwm Taf Morgannwg Bwrdd Diogelu

Diogelu Gwent

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru

Byrddau Diogelu Bae’r Gorllewin

Os bydd angen hyfforddiant diogelu arnoch chi neu eich cydweithwyr, cliciwch isod i weld yr ystod eang o gyrsiau diogelu sy’n cael eu darparu gan Plant yng Nghymru

Gweld ein cyrsiau