Aelodaeth
“Mae ein hysgol a’n staff wedi cael budd enfawr o’n haelodaeth gyda Plant yng Nghymru. Mae wedi ein helpu ni gyda’n hymchwil broffesiynol ynglŷn â beth sydd orau i’n plant. Mae Plant yng Nghymru wedi hwyluso cyfleoedd hyfforddiant gwych, rhannu gwybodaeth amhrisiadwy a herio ein ffordd o feddwl. O ganlyniad, mae Millbrook wedi parhau i werthuso a gwella ei darpariaeth i’r holl ddysgwyr yn effeithiol.”
– Lindsey Watkins, Pennaeth, Ysgol Gynradd Millbrook, Casnewydd
Mae aelodaeth Plant yng Nghymru ar agor i unigolion a chyrff sy’n ymddiddori mewn gwella bywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae ein haelodau’n dod o’r trydydd sector a’r sectorau statudol a phreifat gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd, cyrff trydydd sector, adrannau prifysgol, ysgolion, meithrinfeydd, canolfannau teuluol ac unigolion. I gael gwybod a ydy’ch sefydliad chi yn aelod cyfredol o Plant yng Nghymru cliciwch yma.
Byddwn ni wrth ein bodd pe baech chi neu’ch sefydliad yn ymuno â ni hefyd ac i wybod faint byddai hynny’n costio, cliciwch yma.
Pa fanteision allwch chi ddisgwyl eu derbyn?
- Elwa ar ein harbenigedd ym maes datblygu polisi, gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru a chyfathrebu â rhwydweithiau aml-asiantaeth yn y sector statudol a’r trydydd sector
- Cyfrannu at drafodaethau cyfredol ar bolisi a deddfwriaeth a chymryd rhan yn ymatebion aelodau yn unig i ymgynghoriadau
- Derbyn disgowntiau sylweddol ar gynadleddau, digwyddiadau, cyrsiau hyfforddiant a chyhoeddiadau Plant yng Nghymru
- Derbyn ein cylchgrawn chwarterol sy’n llawn newyddion ac erthyglau am bolisi ac arfer sy’n effeithio ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru
I weld rhestr gyflawn o’r manteision cliciwch yma.
Unrhyw ymholiadau?
Mae Cydlynydd Aelodaeth a Marchnata Plant yng Nghymru ar gael i ateb unrhyw gwestiynau. Gallwch gysylltu â Louise O’Neill drwy ffonio 029 2034 2434 neu drwy ebost: membership@childreninwales.org.uk.
Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks