Prosiect Pris Tlodi Disgyblion/Rhaglen Mynd i’r Afael ag Effaith Tlodi ar Addysg

Prosiect Pris Tlodi Disgyblion/Rhaglen Mynd i’r Afael ag Effaith Tlodi ar Addysg

2019-2024

Ymholiadau cyffredinol:

info@childreninwales.org.uk

 

Pris Tlodi Disgyblion: Defnyddio dull ysgol gyfan i wella llesiant plant o deuluoedd incwm isel.

Dechreuodd y Prosiect Pris Tlodi Disgyblion yn 2019 ac fe barhaodd tan 2024, gan newid ei enw erbyn hynny i’r Rhaglen Mynd i’r Afael ag Effaith Tlodi ar Addysg. Roedd y rhaglen a’r adnoddau, a dderbyniodd gefnogaeth a chyllid gan Lywodraeth Cymru yn rhan o’u hymrwymiad i fynd i’r afael â lefelau cynyddol o dlodi plant a gwella iechyd a lles emosiynol pob plentyn yng Nghymru, wedi’u dylunio ar gyfer pob ysgol a gynhelir a lleoliad addysgol ledled Cymru.

Mae’r adnoddau, sy’n gynyddol ddilys ac yn dal i fod ar gael i’w defnyddio hyd yn oed wedi i’r prosiect gael ei gwblhau, yn werthfawr hefyd i unrhyw ymarferwyr eraill sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd am gael cipolwg ar ddylanwad ac effeithiau tlodi ar eu bywydau pob dydd.

Comisiynwyd Prosiect Pris Tlodi Disgyblion gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ysgolion ag adnoddau cynghori ochr yn ochr â defnyddio’r Grant Datblygu Disgyblion mewn ysgolion; taliadau’r Grant Hanfodion Ysgol a ddyfernir yn uniongyrchol i deuluoedd; datblygu Ysgolion Bro; estyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, yn ogystal â mentrau eraill a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, megis ‘Bwyd a Hwyl’, Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP) sy’n mynd i’r afael ag anfantais cysylltiedig â thlodi yn ein hysgolion.

Yn rhan annatod o’r prosiect 5 mlynedd cyfan, ysgrifennwyd a datblygwyd Canllawiau Pris Tlodi Disgyblion yn rhan o gam cyntaf y prosiect ar gyfer ysgolion a lleoliadau addysg eraill ledled Cymru, er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o brofiadau bywyd dysgwyr o deuluoedd incwm isel, disgrifio effaith tlodi ar fywydau beunyddiol plant a chynnig atebion gwirioneddol a chost-effeithiol i ysgolion er mwyn helpu i ddileu rhwystrau cysylltiedig â thlodi ym maes dysgu, a gwella lles y dysgwr.

Gan ddilyn deddfwriaeth, polisi a chanllawiau allweddol Llywodraeth Cymru, defnyddiodd Plant yng Nghymru waith ymchwil cyfredol o Gymru a’r tu hwnt, gan weithio gydag amrywiaeth o arbenigwyr tlodi plant ac addysg i ddatblygu’r Canllawiau cychwynnol. Roedd hyn yn cynnwys consortia addysg rhanbarthau CymruRhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, sefydliadau’r trydydd sector a swyddfa Comisiynydd Plant Cymru. Roedd y Canllawiau:

Wedi’u dylunio yng Nghymru – wedi’u datblygu yng Nghymru – ar gyfer ysgolion yng Nghymru

Cafodd y Canllawiau Pris Tlodi Disgyblion eu diweddaru’n llwyr yn 2024 er mwyn adlewyrchu’r cyngor cyfredol a’r hinsawdd tlodi plant yng Nghymru.

Mae’r Canllawiau’n esbonio sut mae tlodi’n effeithio ar bum Maes Allweddol o’r diwrnod ysgol:

5 steps welsh.png

Mae pob Maes Allweddol yn cynnig enghreifftiau o’r camau ymarferol, y mae llawer ohonynt yn gamau cost isel neu’n gamau heb gost, y gall ysgolion eu cymryd trwy gymhwyso dull gweithredu ysgol gyfan. I gyd-fynd â’r Canllawiau a chefnogi’r ysgolion sy’n eu rhoi ar waith, dyluniwyd pecyn offer cynhwysfawr a gafodd ei dreialu’n llwyddiannus gydag ysgolion yn ystod ail gam y prosiect. Mae’r pecyn offer hwn yn cynnwys Rhestr wirio; Templed ar gyfer Cynllun Gweithredu; Enghraifft o Gynllun Gweithredu ac Arolwg Llais y Rhieni i helpu ysgolion i adnabod y meysydd lle mae arfer da ar hyn o bryd ac amlygu unrhyw feysydd lle gwelir diffygion, gydag offeryn cynllunio i’w helpu i roi newidiadau ar waith.

Ar hyd ail a thrydydd cam y prosiect, cynigiwyd cymorth ychwanegol i ysgolion a lleoliadau gan bersonél pwrpasol Plant yng Nghymru, ar ffurf hyfforddiant ynghylch sut i roi’r Canllawiau ar waith gan ddefnyddio’r pecyn offer, a hyfforddiant ymwybyddiaeth o dlodi a’i effaith yn yr ardal leol ac ar draws Cymru ar gyfer staff ysgolion.

Yn ystod trydydd cam y prosiect, sef y cam olaf, defnyddiwyd dull gweithredu cynhwysol a model ‘darparu gwybodaeth a chefnogaeth’, a chyflwynwyd rhagor o adnoddau, gan gynnwys:

  • Platfform Cymunedol – ffynhonnell wybodaeth ar padlet sy’n cynnwys gwybodaeth a chyngor perthnasol, ynghyd â lle i gyfnewid gwybodaeth am ymarfer  
  • Canllaw i Lywodraethwyr – gwybodaeth benodol ar gyfer llywodraethwyr ysgol i’w galluogi i gefnogi eu hysgol ar eu taith Pris Tlodi Disgyblion
  • Canllaw byr - Mynd i’r Afael â Bwlio Cysylltiedig â Thlodi
  • Canllaw byr - Lliniaru Effaith Tlodi mewn addysg STEM
  • Astudiaethau achos sy’n amlygu arfer gorau o’r ysgolion a’r lleoliadau sydd wedi rhoi’r Canllawiau ar waith gan ddefnyddio’r pecyn offer a’r adnoddau ychwanegol
  • Gweithgaredd Llais y Dysgwr – ychwanegiad at y pecyn offer

O astudiaeth beilot gychwynnol gyda nifer bach o ysgolion yng Nghymru, fe dyfodd y rhaglen yn ystod ei chyfnod cyllido, gyda mwy na 300 o ysgolion ar draws holl awdurdodau lleol Cymru (gyda 104,000+ o ddysgwyr/fuddiolwyr) yn cyrchu ac yn defnyddio’r canllawiau a’r adnoddau ychwanegol erbyn 2024.

Cewch weld y Canllawiau Pris Tlodi Disgyblion ynghyd â’r deunyddiau cefnogi eraill ar ein gwefan yma a hefyd ar Hwb, sef platfform Addysg ar-lein Llywodraeth Cymru.