Plant yng Nghymru sy’n darparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer Grŵp Trawsbleidiol Senedd Cymru ar Blant a Phobl Ifanc.
Mae’r grŵp hwn yn galluogi Aelodau o’r Senedd i glywed gan amrywiaeth o arbenigwyr yn y sector plant, a thrafod y materion allweddol sy’n effeithio ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Cadeirydd y grŵp yw Jane Dodd, Aelod o’r Senedd.
Os hoffech gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd y grŵp hwn, anfonwch e-bost at: info@childreninwales.org.uk
Plant yng Nghymru sy’n darparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Blant yng Nghymru.
Yn debyg iawn i’r grŵp uchod, mae’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Blant yng Nghymru yn caniatáu i Aelodau Seneddol Cymru gyfarfod ag arbenigwyr yn y maes, i drafod materion sy’n achosi pryder i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru.
Cadeirydd y grŵp yw Carolyn Harris, Aelod o Senedd y Deyrnas Unedig.
Mae’r grŵp hwn ar agor i Aelodau Seneddol ac arglwyddi o Gymru yn unig.