Brexit a Hawliau Plant

Fe wadwyd y cyfle i blant a phobl ifanc i gymryd rhan yn Refferendwm yr UE a benderfynodd y byddai’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, er mai plant a phobl ifanc gaiff eu heffeithio fwyaf gan y penderfyniad i adael. Bydd hyn yn cael effaith ar ein haelodau hefyd, gan gynnwys gweithlu’r plant sy’n darparu gwasanaethau i gefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru.

Trwy weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau hawliau plant a chynghreiriau yng Nghymru, y DU ac Ewrop, mae Plant yng Nghymru’n gweithio ar raglen sy’n ystyried y goblygiadau i blant, eu teuluoedd a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi. Mae hyrwyddo ac amddiffyn hawliau plant a’r CCUHP yn sylfaen i’n gwaith.

Mae llawer o ansicrwydd yn parhau ynghylch Brexit a bydd angen i’n rhaglen waith fod yn ymatebol i newid.  Fodd bynnag, mae ein hegwyddorion cyffredinol sy’n arwain ein gwaith yn cynnwys

  • Na fydd unrhyw gamu yn ôl o ran hawliau presennol plant a phobl ifanc yng Nghymru fel rhan o’r broses negodi ar gyfer Brexit
  • Na fydd unrhyw gamu yn ôl o ran hawliau presennol plant a phobl ifanc yng Nghymru yn dilyn y dyddiad gadael
  • Bydd gan blant a phobl ifanc ddulliau ar waith er mwyn sicrhau y clywir eu lleisiau, fel rhan o broses Brexit
  • Bod cyfleodd ar waith i ennyn diddordeb gweithlu’r plant a gwasanaethau sy’n cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru.
  • Sicrhau bod y sawl sy’n gwneud penderfyniadau’n cydymffurfio’n llawn gyda’r CCUHP drwy gydol y broses.

Gweithgareddau

Mae Plant yng Nghymru yn gweithio gyda’n haelodau a phartneriaid, gan gynnwys Arsyllfa Cymru ar Hawliau Plant a Phobl Ifanc, Eurochild a UK Child Rights Alliances, i gynhyrchu nifer o adroddiadau, ymatebion i ymgynghoriadau a briffiau yn gyfnodol. Gellir eu lawrlwytho o Adran Adnoddau'r wefan hon.  I gyrchu digwyddiadau’r gorffennol ac yn y dyfodol, ewch i Adran Digwyddiadau'r wefan hon os gwelwch yn dda.

Cyswllt

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag info@childreninwales.org.uk