Gofalwyr Ifanc

Gofalwyr ifanc yw plant neu bobl ifanc sy’n ysgwyddo rôl arwyddocaol wrth ofalu am aelod o’r teulu.

Mae Plant yng Nghymru wedi bod yn gweithio ym maes gofalwyr ifanc ers 2002, pan gawsom wahoddiad i ymuno â’r Grŵp Cynghori ar Strategaeth Gofalwyr Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’r grŵp hwn, buom ni’n edrych ar sut gallai gofalwyr ifanc gyfrannu’n weithredol at y Strategaeth Gofalwyr.

Mae Plant yng Nghymru yn credu bod gwaith i gefnogi gofalwyr ifanc yn hanfodol, gan fod y bobl ifanc hyn yn aml yn guddiedig.  Efallai na fydd gofalwyr ifanc yn sylweddoli bod eu rôl yn y teulu yn wahanol i blant a phobl ifanc eraill, ond yn aml maen nhw’n ysgwyddo beichiau corfforol a seicolegol sylweddol.  Yn aml, bydd gan ofalwyr ifanc ychydig neu ddim amser iddyn nhw eu hunain ac mae’n gallu ymddangos fel petaen nhw’n colli eu plentyndod.

Mae gwaith Plant yng Nghymru yn y maes hwn yn cynnwys:

  • Hwyluso Rhwydwaith Gweithwyr Proffesiynol Gofalwyr Ifanc Cymru Gyfan
  • Ymgysylltu’n rhagweithiol â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allanol eraill yng Nghymru, gan gynnwys trwy ein hymwneud â gweithgorau strategol
  • Rhoi cyfleoedd i ofalwyr ifanc ddod at ei gilydd ar lefel genedlaethol a dylanwadu ar benderfyniadau polisi cenedlaethol
  • Cefnogi gwasanaethau i gydweithio er mwyn datblygu gweithgareddau ar gyfer gofalwyr ifanc