Mae Plant yng Nghymru yn cynnig rhaglen amrywiol o gyrsiau hyfforddiant agored sy’n cael ei datblygu a’i diweddaru’n barhaus.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn prynu un o’n cyrsiau hyfforddi yn benodol ar gyfer eich sefydliad chi, neu gomisiynu hyfforddiant wedi’i deilwra, gall Plant yng Nghymru drefnu hynny i chi.
Mae Plant yng Nghymru yn cynnig cyrsiau hyfforddiant wedi’u hachredu, ac Agored Cymru yw ein corff dyfarnu.
Mae Plant yng Nghymru yn darparu ystod o gyrsiau hyfforddi amlddisgyblaeth o ansawdd uchel a’r nod yw hyrwyddo dull gweithredu integredig ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y sector statudol, y sector annibynnol a’r trydydd sector.
Mae ein cyrsiau yn tynnu ar adnoddau ein tîm staff arbenigol ein hunain, a rhwydwaith cenedlaethol o unigolion a sefydliadau arbenigol. Ein nod yw darparu cyrsiau sy’n ymarferol, yn gyfeillgar, yn ysbrydoledig, ac sy’n adlewyrchu cyd-destun deddfwriaethol a pholisi Cymru.
Rydym yn gallu darparu hyfforddiant pwrpasol ‘yn bersonol’ mewn lleoliad o’ch dewis, neu gallwn ddarparu cyrsiau hyfforddi ar-lein rhyngweithiol byw gan ddefnyddio amrywiaeth o lwyfannau ac offer. Mae'r sesiynau hyn yn gwbl ryngweithiol a gallant ddod ag ymarferwyr at ei gilydd mewn amgylchedd dysgu heb heriau teithio.
The training was delivered well via teams, well done in very challenging times!
I found it all useful and how it was delivered by Mike. I especially liked the examples he gave.
I work with teenage boys who think it’s cool to hang around in gangs and very often they find themselves in the wrong place and...
My thanks to Claire for her expert delivery of the course...