Cyswllt Rhieni Cymru

Parents_Connect_Logo(RGB300dpi)Small copy.jpg

Prosiect

Cyswllt Rhieni Cymru -
‘Grymuso lleisiau rhieni a gofalwyr i hybu hawliau plant’

DS Wrth gyfeirio at ‘rhieni’ rydyn ni’n defnyddio’r term yn gynhwysol i gyfeirio at rieni (mamau a thadau), rhieni cu, rhieni maeth, rhieni mabwysiadol, neu unrhyw un sydd â chyfrifoldeb rhiant. 
 

Manylion cyswllt

Fatiha Ali
(Swyddog Datblygu, Cyswllt Rhieni Cymru)
fatiha.ali@childreninwales.org.uk

Anna Westall
(Swyddog Datblygu, Cyswllt Rhieni Cymru)
anna.westall@childreninwales.org.uk

 

Ar gyfer pwy mae’r prosiect wedi’i fwriadu?

  • Rhieni yng Nghymru

  • Awdurdodau lleol a sefydliadau sy’n ymgysylltu â rhieni

 

Fatiha Ali yw’r prif Swyddog Datblygu ar gyfer ‘Cyswllt Rhieni Cymru’ yn Plant yng Nghymru, a hi sy’n gyfrifol am gydlynu’r prosiect hwn. Os hoffech chi wybod mwy neu fod yn rhan o hyn, cysylltwch â Fatiha ar:
fatiha.ali@childreninwales.org.uk

Mae Cyswllt Rhieni Cymru (CRhC) yn brosiect cyffrous dan arweiniad Plant yng Nghymru, gydag arian a sicrhawyd gan Lywodraeth Cymru.  

Sefydlwyd y prosiect i ymgysylltu â rhieni/gofalwyr yn genedlaethol a chreu:

‘Platfform Cymru gyfan sy’n cynnig dull dwy ffordd o sicrhau bod lleisiau rhieni’n cael eu clywed ac yn bwydo i mewn i ddatblygiad polisi, gan arwain at gyfranogiad ystyrlon ar ffurf cydgynhyrchu’. 

Mae’r prosiect wedi bod yn gweithio i ymateb i’r angen cenedlaethol am ffordd glir i gyrchu barn rhieni/gofalwyr ar feysydd polisi sy’n effeithio ar eu plant a’u pobl ifanc.  

Mae rhieni/gofalwyr eisiau teimlo bod eu profiadau bywyd yn cael eu gwerthfawrogi, a’u bod yn cael eu cynnwys yng ngham cyntaf penderfyniadau, yn hytrach na bod yn rhan o ymarferiad ticio blychau. Maen nhw hefyd eisiau cael adborth ar sut mae eu barn yn cael ei defnyddio.   

Bydd gwrando ar leisiau rhieni/gofalwyr yn helpu i greu gwasanaethau o safon uchel a fydd yn cryfhau rhieni a theuluoedd, ac yn sicrhau bod hawliau plant yn cael eu gwireddu.  

Wrth ymgysylltu â rhieni/gofalwyr, maen nhw wedi dweud yn eglur:

‘Rydyn ni eisiau cael llais a chael ein clywed’  

“Rwy’n gwybod bod cyfreithiau’n effeithio arnon ni, ond dwy ddim yn siŵr sut i chwarae rhan” 

Cyfnod 1 (Tachwedd 2021- Ionawr 2022)
 

Yng Nghyfnod 1 o’r prosiect,  amlygodd ymarferiad rhychwantu, arolwg ac adroddiad yr angen am gyfranogiad ystyrlon gan rieni.

Amlygodd canfyddiadau Cyfnod 1 fod rhieni’n teimlo bod rhoi cyfle iddyn nhw rannu eu barn, eu syniadau a’u safbwyntiau yn eithriadol o bwysig. Y canfyddiadau hyn o Gyfnod 1 oedd yn darparu’r dystiolaeth ar gyfer Cyfnod 2 o’r prosiect.

Cyflawniadau Prosiect (Mawrth 2023 hyd heddiw) 

Mae Cyswllt Rhieni Cymru wedi sefydlu rhwydwaith fel a ganlyn:

  • Fforwm gweithwyr proffesiynol gyda 110 o aelodau 
  • Grŵp llywio o rieni gyda 6 chynrychiolydd sy’n rhieni 
  • 22 o gynrychiolwyr lleol, un ym mhob un o awdurdodau lleol Cymru. 

Mae’r grŵp llywio i rieni a’r fforwm gweithwyr proffesiynol wedi bod yn cyfarfod bob chwarter ac yn rhoi adborth i gyfeirio’r prosiect.  

  • Hefyd mae adnoddau i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol wedi cael eu cydgynhyrchu mewn partneriaeth â’r Rhwydwaith Rhieni yng Nghaerffili. Cewch hyd i’r rhain yma. 

Posteri 
Hanesion Fideo a Llafar 

Bu Cyswllt Rhieni Cymru yn treialu detholiad o bum dull o ymgynghori â grwpiau rhieni a gofalwyr ar ran Llywodraeth Cymru. 

Defnyddiwyd yr ymgynghoriad hwn i brofi ein rhwydwaith a chasglu gwybodaeth am faes polisi penodol ar draws holl awdurdodau lleol Cymru.  

Nodau’r ymgynghoriad oedd deall: 

  • Pa gefnogaeth a gwybodaeth mae ar rieni plant 0-18 oed eu hangen wrth fagu plant.  
  • Mynediad rhieni at gymorth rhianta a gynigir gan awdurdodau lleol a’r trydydd sector a’u hymwybyddiaeth ohono.  
  • Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth rhieni o ‘fagu plant yn gadarnhaol’ 
  • Disgwyliadau Llywodraeth Cymru a’r cyngor/gefnogaeth mae’n eu darparu. 
  • Effeithiolrwydd y dulliau a ddefnyddir i ymgynghori â rhieni. 

Gallwch weld y prif ganfyddiadau yma.

Roedd hwn yn gyfle i rieni leisio barn ar y gwaith mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno i gefnogi rhieni. 

  • Crewyd platfform ar-lein o’r enw Hwb Ar-lein ‘Cyswllt Rhieni Cymru’ i ddarparu gwybodaeth a deunyddiau ar gyfer rhieni a’r bobl broffesiynol sy’n gweithio gyda rhieni.  

Bydd yr hwb ar-lein yma hefyd yn ffordd i rieni rannu eu barn ar bolisi cenedlaethol a materion cysylltiedig. 

Lansiwyd hwb ar-lein Cyswllt Rhieni Cymru ym mis Chwefror 2024, a gallwch ei gyrchu yma.  

Hawliau Rhieni a Phlant 

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn canolbwyntio ar y teulu, gyda’r plentyn yn ganolog. Mae’n cynnwys y geiriau ‘rhieni’ a ‘teuluoedd’ yn fwy na ‘plant’, ac yn cydnabod bod hawliau plant yn cael eu hamddiffyn o fewn y teulu yn gyntaf.  

Mae prosiect CRhC yn hybu Erthyglau 3, 5 a 18 o CCUHP. Mae’r erthyglau hynny’n cydnabod rhieni a theuluoedd a’u rôl bwysig yn amddiffyn plant ac yn gofalu amdanynt. Cewch ragor o wybodaeth yma: Plant yng Nghymru | Rhieni a hawliau plant 

Mae prosiect CRhC yn cefnogi rhieni/gofalwyr i ddeall hawliau plant ac i gefnogi eu plant i sicrhau bod eu hawliau’n cael eu gwireddu. 

Mae hefyd yn cyfrannu at Linyn 5 o gynllun Llywodraeth Cymru ‘Codi Ymwybyddiaeth’, a ddatblygwyd yn rhan o’r ‘Cynllun Hawliau Plant’.