Cyfarfodydd Cymru Ifanc â Gweinidogion

Ers mis Medi 2020, mae Cymru Ifanc wedi bod yn hwyluso cyfarfodydd ar-lein rhwng Gweinidogion a phobl ifanc o bob rhan o Gymru mewn ymateb uniongyrchol i bandemig Covid-19.

Cyfarfodydd Cymru Ifanc â Gweinidogion

Mae’r cyfarfodydd hyn wedi golygu bod pobl ifanc yn gallu trafod effaith y pandemig a gwneud awgrymiadau ynghylch y gefnogaeth y gallai fod ar bobl ifanc ei hangen yn y cyfnod yma. Mae grwpiau hefyd wedi cwrdd â Thîm Cyfathrebu Llywodraeth Cymru i drafod y platfformau gorau i’w defnyddio i gyfathrebu â phlant a phobl ifanc ynghylch y Coronafeirws.

Dyma rai o’r meysydd allweddol y buon nhw’n sgwrsio yn eu cylch:

  • Pobl ifanc a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi ac yn profi anawsterau wrth gael mynediad i dechnoleg. Pwysleisiodd y grŵp bwysigrwydd gwella mynediad digidol i bob person ifanc, yn enwedig gan fod addysg ar-lein yn debygol o barhau am beth amser
  • Sut mae’r pandemig wedi effeithio ar y bobl ifanc mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, a’r gwasanaethau ieuenctid sy’n eu cefnogi. Fe wnaethon nhw esbonio sut mae’r gwasanaethau hyn yn hanfodol ar gyfer llesiant, ac yn cynnig rhwydweithiau cefnogi i bobl ifanc. Cyfrannodd hynny at ddechrau agor Canolfannau Ieuenctid a Chymuned i gefnogi hyd at 15 o bobl ar y tro
  • Cyfyngiadau, cyfnodau clo a swigod. Bu Prif Weinidog Cymru yn gweithredu ar sail argymhellion y bobl ifanc wrth gyflwyno newid i’r polisi Cwrdd mewn Mannau Cyhoeddus. Roedd hyn yn ymateb uniongyrchol i’r ffaith bod y bobl ifanc wedi dweud na fyddai cwrdd oddi mewn i swigen y teulu yn unig bob amser yn diwallu eu hanghenion

Roedd y bobl ifanc fu’n cymryd rhan yn y cyfarfodydd hyn yn hyderus, yn llawn angerdd ac yn huawdl. Buon nhw’n cyfrannu at y drafodaeth gydag ystyriaeth feddylgar o sut mae cyfyngiadau’r Coronafeirws wedi effeithio ar bob agwedd ar fywydau pobl ifanc. Buon nhw’n cynnig argymhellion i gefnogi pob person ifanc yng Nghymru i gael y cyfleoedd tecaf a gorau, er gwaethaf yr amgylchiadau. Roedden nhw wastod yn meddwl am beth allai fod o’n blaenau.

Bu’r bobl ifanc yn mynychu sesiynau paratoi cyn y cyfarfodydd â’r Gweinidogion, a sesiynau dadfriffio wedyn. Fel rhan o’r broses hon, cynhaliodd Cymru Ifanc weithgaredd myfyrio a gwerthuso oedd yn edrych ar yr effeithiau a’r canlyniadau i’r bobl ifanc oedd yn cymryd rhan. Adlewyrchwyd y rhain yn y cymylau geiriau isod, sy’n cael eu harddangos yn Adran Gyfathrebu Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.