ProsiectPris Tlodi Disgyblion: Defnyddio Dull Ysgol Gyfan i Wella Llesiant Plant o Deuluoedd Incwm Isel a Theuluoedd Difreintiedig |
Dyddiad CychwynN/A |
Manylion Cyswllt:Kate Thomas (Swyddog Datblygu, Pris Tlodi Disgyblion) |
Mae’r prosiect a’r canllawiau yn targedu’r holl leoliadau addysg a gynhelir yng Nghymru, staff addysg ac unrhyw un sy’n gweithio mewn ysgolion.
Fodd bynnag, mae’r prosiect hwn yn ddefnyddiol i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc dan anfantais sydd am ddeall dylanwad ac effeithiau tlodi ar blant a phobl ifanc, yn enwedig mewn ysgolion.
Mae tlodi’n bellgyrhaeddol, a bydd y prosiect o ddiddordeb ac yn ddefnyddiol i unrhyw un sy’n gweithio ym maes tai, ymgysylltu cymunedol neu wasanaeth ieuenctid.
Caiff y prosiect ei gefnogi a’i gyllido trwy Is-adran Cymorth i Ddysgwyr Llywodraeth Cymru a’r Gyfarwyddiaeth Addysg.
Bu Plant yng Nghymru’n gweithio gydag amrywiaeth o arbenigwyr ar dlodi plant ac addysg (gan gynnwys Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, a’r pedwar Consortiwm Addysg Rhanbarthol yng Nghymru) i ddatblygu cyfres o ganllawiau er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o effaith tlodi ar y profiadau pob dydd mae disgyblion o deuluoedd incwm isel a theuluoedd difreintiedig yn eu cael yn yr ysgol.
Mae’r canllawiau’n adnodd a ddyluniwyd yng Nghymru ar gyfer ysgolion yng Nghymru, i gynyddu ymwybyddiaeth o faterion tlodi disgyblion a darparu atebion pendant a chosteffeithiol a all gyfrannu at wella llesiant dysgwyr.
Mae’r canllawiau’n rhoi sylw i bum maes allweddol sy’n effeithio ar ddisgyblion mewn lleoliad ysgol ac sy’n byw mewn tlodi:
Mae gan Plant yng Nghymru Swyddog Datblygu penodedig sy’n gweithio gyda nifer o ysgolion ledled Cymru i’w helpu i roi’r canllawiau ar waith, er mwyn lleihau effaith tlodi o ddydd i ddydd a hybu llesiant eu disgyblion. Gall y Swyddog Datblygu gynnig cyngor i ysgolion ar sut i ddefnyddio’r canllawiau a’u rhoi ar waith i leihau effaith tlodi yn eu hysgol, yn ogystal â darparu hyfforddiant.
Os hoffech ymwneud â hyn, cael rhagor o wybodaeth neu dderbyn hyfforddiant ar y canllawiau, cysylltwch â: kate.thomas@childreninwales.org.uk
Mae’r costau sy’n gysylltiedig â’r diwrnod ysgol yn achosi anfantais i lawer o ddisgyblion ac yn eu hatal rhag cyflawni eu potensial. Mae’r canllawiau, sy’n seiliedig ar hawliau a lles plant, yn cynnig ffyrdd y gall ysgolion weithredu er mwyn sicrhau na fydd tlodi yn rhwystr ar gyfer eu disgyblion.
Gyda’r pandemig diweddar yn gwthio mwy o bobl nag erioed i dlodi, bydd y canllawiau’n fwy perthnasol fyth. Ein nod yw helpu holl ysgolion Cymru i ystyried y canllawiau a’u rhoi ar waith er mwyn creu profiad tecach i ddisgyblion o deuluoedd incwm isel a theuluoedd difreintiedig. Trwy gynyddu ymwybyddiaeth ac annog ysgolion i weithredu ar feysydd allweddol sy’n rhan o’r canllawiau, gallwn ddileu’r rhwystrau sy’n atal disgyblion rhag dysgu ac yn cael effaith negyddol ar eu llesiant, a sicrhau na chaiff yr un plentyn ei adael ar ôl o ganlyniad i dlodi.