Swyddog Datblygu - Prosiect Paratoi

Lleoliad

Ystwyth - yn gweithio o gartref neu yn y swyddfa Caerdydd

 

Oriau Gwaith

28 awr yr wythnos

 

Contract

Parhaol

 

Graddfa Gyflog

£34,000 y flwyddyn pro rata

 

Dyddiad cau

13 Mai 2024 (12yp)

Swyddog Datblygu (Prosiect Paratoi)  

Ydych chi’n credu bod gan bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal hawl i dderbyn gwybodaeth gywir, amserol, ac y dylen nhw gael eu paratoi a’u cefnogi’n llawn i bontio’n ddiogel o ofal? Ydych chi’n ymroddedig i rymuso pobl ifanc agored i niwed a brwydro i atal pob math o ddigartrefedd?

Trwy ddatblygu a chyflwyno cyfres o adnoddau rhyngweithiol sy’n creu cysylltiad, byddwch chi’n ymdrechu i rymuso pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal trwy wella’u gwybodaeth am eu hawliau a’r pethau y dylen nhw eu derbyn wrth gychwyn y broses o bontio o ofal.  

Un elfen o’r ‘Prosiect Paratoi’, trefniant cydweithio rhwng Plant yng Nghymru a Lleisiau o Ofal Cymru, yw’r swydd hon, ac mae’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Sylwch y dechreuodd y prosiect hwn yn 2019 a bod cyllid wedi'i sicrhau ar hyn o bryd tan fis Mawrth 2025. Bydd estyniad i hyn yn gofyn am gyflwyniad llwyddiannus i Lywodraeth Cymru