Trysorydd (Rôl Wirfoddol)

Ar ôl gwasanaethu am ddau dymor llawn, bydd ein Trysorydd presennol yn rhoi'r gorau i'w swydd yn ein cyfarfod cyffredinol blynyddol ym mis Tachwedd 2024 ac felly rydym yn chwilio am rywun profiadol i ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Mae'r Trysorydd yn gyfrifol am gefnogi Bwrdd yr Ymddiriedolwyr i oruchwylio'r gwaith o redeg yr elusen yn unol ag arfer da, ein dogfen lywodraethol a gofynion cyfreithiol. Mae'r Trysorydd yn cadeirio'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau Dynol, sy'n adrodd i Fwrdd llawn yr Ymddiriedolwyr, gan roi sylwadau ar y wybodaeth ariannol a gynhyrchir gan dîm Arwain y sefydliad, a rhoi arweiniad i'r Ymddiriedolwyr. Mae'r Trysorydd yn chwarae rôl bwysig wrth gynllunio'n strategol gyda'r Ymddiriedolwyr eraill, yn ogystal â rhoi cymorth a chyngor i'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau, gan sicrhau bod gweithdrefnau, rheolaethau a mesurau addas ar waith. Mae'r Trysorydd hefyd yn darparu trosolwg o gyllid y sefydliad yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol bob blwyddyn.

‘Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Plant yng Nghymru. Rydym yn datblygu ein strategaeth newydd, gan weithio i gael yr effaith fwyaf bosibl i helpu i sicrhau bod plant ledled Cymru yn cael arfer eu hawliau. Mae sefydlogrwydd a diogelwch ariannol yn hanfodol os ydym am gyflawni ein nodau. Mae gan ein trysorydd – gyda chefnogaeth ein tîm proffesiynol cadarn – rôl allweddol i'w chwarae. Ystyriwch ymuno â ni.’

Helen Mary Jones, Cadeirydd, Plant yng Nghymru

Sut i ymgeisio

Dylid mynegi diddordeb drwy anfon datganiad eglurhaol (dim mwy na dwy ochr A4) ynghyd â CV i vacancies@childreninwales.org.uk. Caiff ceisiadau eu hystyried wrth iddynt ddod i law ac rydym yn gobeithio y bydd ein Trysorydd newydd yn dechrau yn ei rôl erbyn ein cyfarfod cyffredinol blynyddol ym mis Tachwedd.