Bwrdd Prosiect

Mae gan Cymru Ifanc Fwrdd Prosiect Pobl Ifanc (BPPI) a’i rôl yw darparu cyngor a chraffu, o bersbectif person ifanc.

Bwrdd Prosiect

YW Logo Full Colour.svg

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae aelodaeth y Bwrdd wedi cynnwys cynrychiolwyr o fforymau a chynghorau ieuenctid Awdurdodau Lleol, ond cynigiwyd cynrychiolaeth ehangach o sefydliadau partner yn ogystal. 

Mae’r Bwrdd yn cwrdd yn fisol, mewn gwahanol rannau o Gymru, neu’n fwy diweddar yn ddigidol, ac mae’r holl gyfarfodydd yn cael eu trefnu a’u hwyluso gan Plant yng Nghymru.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’r grŵp, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: young.wales@childreninwales.org.uk