Gŵyl Cymru Ifanc

Dydd Sadwrn, 19 Tachwedd 2022
Amgueddfa Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd

Tachwedd 2022. Byddwn ni’n treulio’r diwrnod yn dathlu Diwrnod Byd-eang y Plant yn Amgueddfa Cymru, Sain Ffagan, o 9.30am tan 3pm, gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd chwyddo lleisiau plant a phobl ifanc ar y materion sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae tîm Cymru Ifanc wedi bod wrthi’n ofalus yn trefnu diwrnod yn llawn gweithdai cyffrous a rhyngweithiol, trafodaethau ac adloniant byw, yn arbennig i bobl ifanc Cymru eu mwynhau ac ymwneud â nhw.

Yn yr Atriwm, byddwn ni’n lansio ein harddangosfa Hawliau Plant, fydd yn canolbwyntio ar y thema ‘Beth mae Hawliau Plant yng Nghymru yn ei Olygu i Chi?’ Mae tîm o wirfoddolwyr Cymru Ifanc wedi casglu a chrynhoi darnau o waith gan bobl ifanc 11-25 oed, gan greu arddangosfa wych yr ydyn ni’n methu aros i’w rhannu gyda chi i gyd.  

Bydd ein gwirfoddolwyr Cymru Ifanc hefyd yn hwyluso trafodaeth Bord Gron. Gyda chwestiynau a ddatblygwyd gan aelodau o’n Grwpiau Diddordeb Arbennig ein hunain, sy’n rhan o Cymru Ifanc, bydd y rhai sy’n bresennol yn cael cyfle i glywed gan Gomisiynydd Plant newydd Cymru a nifer o’r bobl eraill sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru ynghylch materion amlwg i bobl ifanc Cymru heddiw.

Byddwn ni’n croesawu llu o stondinau arddangos gan sefydliadau partner, aelodau o Plant yng Nghymru a sefydliadau amlwg eraill yng Nghymru, gyda ffocws ar faterion allweddol fel llesiant plant, cydraddoldeb ac urddas mislif, yn ogystal â cherddoriaeth fyw, adloniant a gwesteion arbennig ar hyd y dydd.

Mae mwy fyth o sefydliadau a gweithgareddau gwych i gael eu cyhoeddi wrth i ni nesáu at y digwyddiad, ac rydyn ni’n gobeithio byddwch chi’n ymuno â ni ar gyfer ein dathliadau.  

Children in Wales Email Footer festival.jpg