Neges gan Gadeirydd Plant yng Nghymru:

Yn dilyn proses ddethol drwyadl, mae’n bleser mawr gen i gyflwyno Owen Evans yn Brif Weithredwr newydd Plant yng Nghymru. Bydd Owen yn cychwyn yn y swydd ar ôl y Pasg, ac rydym yn edrych ymlaen at ei arweiniad wrth i ni symud i gyfnod nesaf Plant yng Nghymru.

Mae Owen yn siarad Cymraeg yn rhugl, ac yn dod atom ni o’i swydd flaenorol yn Gyfarwyddwr Cymru mewn elusen addysg amlwg, felly mae’n dod â chryn brofiad o bolisi, cyflwyno rhaglenni a gweithio mewn partneriaeth i Plant yng Nghymru. Mae hefyd yn Ymddiriedolwr i un o elusennau maethu mwyaf y Deyrnas Unedig, ac yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Cymru y Cyngor Prydeinig.

Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag Owen ac yn sicr y byddwch chi’n ymuno â ni i’w groesawu i Plant yng Nghymru.

Dave Williams, Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, Plant yng Nghymru

Meddai Owen ‘Rwyf wrth fy modd ac yn ei theimlo’n fraint cael fy mhenodi i’r rôl hon. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’r aelodau, staff, a phlant a phobl ifanc ledled Cymru i hybu gwaith pwysig yr agenda hawliau plant.’