Ydych chi'n berson ifanc 16-24 oed sydd ag angerdd am newid a llais sy'n haeddu cael ei glywed?

Mae gan Gymru Ifanc gyfle cyffrous i ymuno â bwrdd Cynghori am y Warant i Bobl Ifanc.

Y Warant i Bobl Ifanc yw ymrwymiad allweddol Llywodraeth Cymru i bawb rhwng 16 a 24 oed, sy’n byw yng Nghymru, gyda chymorth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, a chymorth i gael gwaith neu ddod yn hunangyflogedig. Byddwch yn cael y cyfle i adolygu a siapio'r warant i wneud yn siŵr ei bod yn cefnogi pob person ifanc i fanteisio ar gyfleoedd i symud ymlaen ar eu llwybr dewisol.

Manteision Gwirfoddoli:

• Cwrdd â ffrindiau newydd a chael hwyl
 • Cwrdd â Gweinidogion Llywodraeth Cymru
 • Datblygu ystod o sgiliau a hyfforddi
 • Cyfleoedd i fynychu digwyddiadau blynyddol a chenedlaethol
 • Gwella eich CV a/neu gais UCAS
 • Cefnogaeth ariannol i fynychu cyfarfodydd a phreswyliadau.

DIDDORDEB?
I fod yn rhan o hyn a chychwyn eich taith wirfoddoli gyda Cymru Ifanc, llanwch ein ffurflen gofrestru trwy glicio yma: https://forms.office.com/e/L0a1etADvf
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: volunteer@childreninwales.org.uk​​​​​​​ / rachel.clement@childreninwales.org.uk

YW Logo Full Colour.jpgYoung Wales Ministerial Meetings.png