Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio eich barn ar reoleiddio gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig, fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos. Rydym yn bwriadu rheoleiddio’r gwasanaethau hyn mewn ymateb i adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol. Mae'r adroddiad yn argymell y dylai pob ysgol arbennig breswyl gael ei harolygu yn unol â safonau ansawdd cartrefi gofal yng Nghymru. Rydym wedi llunio Rheoliadau drafft sy'n diffinio cwmpas y gwasanaeth ac yn gosod gofynion ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol y gwasanaethau hyn. Rydym hefyd wedi llunio canllawiau statudol drafft ategol.

Rydym hefyd yn gofyn am eich barn ar dri maes arall sy’n ymwneud â rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol:

·      Rheoliadau Drafft sy'n ei gwneud yn orfodol i gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn y gwasanaeth ar y gofrestr darparwyr gwasanaethau;

·      Diweddariadau i'r Canllawiau Statudol ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd;

·      Cynigion i ddiwygio Rheoliadau i ymdrin â dau fater o fewn y fframwaith rheoleiddio. Mae'r rhain yn ymwneud â darparwyr sy'n cofrestru ac yna’n addasu cartrefi gofal 4 ystafell wely (gan osgoi gorfod bodloni'r gofynion amgylcheddol ychwanegol, megis cael cyfleusterau en-suite), a rheoleiddio gwasanaethau gofal canolraddol sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol. 

 

Mae’r ymgynghoriad, a fersiwn hawdd ei darllen, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yma: https://www.llyw.cymru/rheoleiddio-gwasanaethau-preswyl-ysgolion-arbennig

Agorodd yr ymgynghoriad heddiw, 15 Mai, a bydd yn cau am hanner nos ddydd Sul 6 Awst.