Pŵer yr Ymennydd: Pobl Ifanc Niwroamrywiol yng Nghymru

Ynglŷn â Phŵer yr Ymennydd

Nod Pŵer yr Ymennydd: Brain Power yw archwilio profiadau plant a phobl ifanc niwroamrywiol o gefnogaeth a mynediad at wasanaethau niwroddatblygiadol, gan gynnwys beth sy'n gweithio'n dda, beth y gellid ei wella a beth sydd angen ei newid.

Mae’r prosiect hwn wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru tan wanwyn 2027 ac mae dau gyfle ar gael:

  1. Grŵp cynghori ar gyfer pobl ifanc niwroamrywiol 11–25 oed sy'n byw yng Nghymru, sy’n cyfarfod yn rheolaidd i weithio ar brosiectau, gan gynnwys creu adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol a chyfrannu at Raglen Gwella Gwasanaethau Niwroamrywiaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru.
  2. Gweithdai mewn ysgolion sy'n rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc niwroamrywiol rannu eu profiadau a'u barn.

Drwy weithdai creadigol, hygyrch ac wedi'u teilwra, bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i rannu eu syniadau, eu barn a'u profiadau yn y ffyrdd sy'n gweithio orau iddyn nhw. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar gyfranogiad ystyrlon, gan sicrhau bod dysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu clywed , eu parchu a'u grymuso i gymryd rhan ar eu cyflymder eu hunain.

Ar gyfer pwy mae'r prosiect?
Mae'r prosiect wedi'i gynllunio ar gyfer plant a phobl ifanc niwroamrywiol, gyda chyfranogiad wedi'i deilwra i anghenion, dewisiadau ac arddulliau cyfathrebu unigol.
Am ragor o wybodaeth am y Grŵp Cynghori, cofrestrwch yma.

Ar gyfer ysgolion:
Hoffem ymgysylltu â dysgwyr trwy grwpiau ffocws untro mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg a Chymraeg. Bydd y rhain yn cynnwys:

Sut fydd pobl ifanc yn cymryd rhan?
Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai unigryw, creadigol a hygyrch gan ddefnyddio dulliau sy'n seiliedig ar chwarae a chyfranogol.
Bydd sesiynau'n cael eu teilwra i'r dysgwyr sy'n cymryd rhan, gan ganiatáu iddynt gymryd rhan ar eu cyflymder eu hunain ac mewn ffyrdd sy'n addas iddyn nhw.

Bydd cyfleoedd i bobl ifanc:

Dylanwadu ar newid
Bydd y safbwyntiau a'r profiadau a rennir drwy Pŵer yr Ymennydd yn helpu i ganfod beth sy'n gweithio'n dda, ble mae angen gwelliannau a beth sydd angen newid.
Bydd y ddirnadaeth hon yn helpu i lywio polisi, gwasanaethau a chefnogaeth i blant a phobl ifanc niwroamrywiol ledled Cymru. Mae'r prosiect yn adeiladu ar waith llwyddiannus Plant yng Nghymru gyda dysgwyr drwy'r Rhaglen Llysgenhadon Anghenion Dysgu Ychwanegol, a gydnabuwyd gan Lywodraeth Cymru fel un sy'n helpu i sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed wrth lunio polisi ac ymarfer. Darllenwch adroddiad Rhaglen Llysgenhadon Anghenion Dysgu Ychwanegol 2025 i 2026

Cymryd rhan

Hoffem weithio gydag ysgolion, sefydliadau a phartneriaid a all helpu i hyrwyddo'r cyfle ac atgyfeirio plant a phobl ifanc a allai elwa o gymryd rhan. Cynhelir sesiynau mewn ysgolion yn ystod tymor yr Hydref 2026.Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â: young.wales@childreninwales.org.uk

Partneriaid y prosiect

Pŵer yr Ymennydd: Ariennir Pŵer yr Ymennydd gan Lywodraeth Cymru ac fe'i hwylusir gan Cymru Ifanc, prosiect gan Plant yng Nghymru.