‘Pontio’r Bwlch – Dathlu Gwahaniaeth’

Hyfforddiant wedi’i arwain gan Rieni ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Niwrowahaniaeth

Prosiect hyfforddi wedi’i arwain gan rieni yw ‘Pontio’r Bwlch – Dathlu Gwahaniaeth’ a luniwyd i helpu gweithwyr proffesiynol ar draws Cymru i ddeall plant ag ADY a Niwrowahaniaeth yn well.

Datblygwyd yr hyfforddiant yn gyntaf gan Lleisiau Betws, grŵp cymunedol o rieni yng Nghasnewydd. Mae Lleisiau Betws yn cyfarfod bob tair wythnos i gysylltu, i rannu profiadau ac i sbarduno newid yn eu cymunedau.

Mae gan y rhieni hyn brofiad bywyd o fagu plant ag ADY/Niwrowahaniaeth, o fyw mewn cymunedau sy’n teimlo effaith tlodi, ac o geisio sicrhau’r gefnogaeth gywir i’w plant.

Yn eu geiriau eu hunain,

‘….Rydyn ni’n angerddol iawn ac am rannu ein profiad’

Llywiodd hynny’r syniad o lunio pecyn hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Datblygwyd y pecyn er mwyn: ·

Ehangu’r prosiect ar draws Cymru

Ers i’r hyfforddiant gael ei ddatblygu, derbyniodd y prosiect ragor o arian gan Lywodraeth Cymru. Mae Achub y Plant Cymru a Plant yng Nghymru wedi gweithio mewn partneriaeth i ehangu’r hyfforddiant i ardaloedd Pen-y-bont ar OgwrMerthyr Tydfil Rhondda Cynon Taf.

Datblygwyd model cynaliadwy i hyfforddi’r hyfforddwyr a fydd yn cefnogi rhieni sydd â phrofiad bywyd i ddod yn hyfforddwyr yn eu cymunedau. Bydd y rhieni hyn wedyn yn gallu cyflwyno’r hyfforddiant yn eu cymunedau eu hunain.

Bydd y prosiect yn gwneud y canlynol:

Nodau’r prosiect

Gobaith prosiect ‘Dathlu Gwahaniaeth’ yw gwella canlyniadau i blant ag ADY a niwrowahaniaeth. Cyflawnir hynny trwy roi cyfle i rieni a gweithwyr proffesiynol wneud y canlynol:

Rhieni yw’r ‘arbenigwyr trwy brofiad’ yn eu bywydau eu hunain. Drwy sicrhau bod eu profiadau wrth wraidd y rhaglen, bydd modd i weithwyr proffesiynol ddeall gwir anghenion plant a’u teuluoedd.

Cysylltwch â

Fatiha Ali, Swyddog Datblygu, Cyswllt Rhieni Cymru

fatiha.ali@childreninwales.org.uk