Rydym yn falch o gael dweud ein bod wedi cyhoeddi'r adroddiad a gyflwynodd Cymru Ifanc i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sydd i’w weld isod, ynghyd â chrynodeb gweithredol.

Lluniwyd yr adroddiad hwn er mwyn archwilio cyflwr hawliau plant yng Nghymru, yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Gwnaed argymhellion allweddol ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â hawliau plant. Cyd-luniwyd yr adroddiad gyda gwirfoddolwyr ifanc a oedd yn rhan o grŵp penodedig o Gymru Ifanc gyda ffocws ar ymchwilio i hawliau plant yng Nghymru a gweithio i lunio'r adroddiad hwn.

O ganlyniad i'r adroddiad hwn, gwahoddwyd y bobl ifanc a fu'n ymwneud â'r prosiect i fynd i Genefa i leisio eu barn am hawliau plant.
Gallwch ddarganfod mwy am y daith hon yma.

Hoffai holl staff Cymru Ifanc ddiolch i’r bobl ifanc a fu’n ymwneud â’r prosiect am eu gwaith caled a’u hymroddiad dros fisoedd lawer cyn cyhoeddi’r adroddiad hwn.