Dros gyfnod o 7 diwrnod gwaith rhwng 22 Ebrill a 1 Mai 2020, cyflwynodd Plant yng Nghymru arolwg i’n haelodau a’n cysylltiadau ehangach. Ffocws ein harolwg oedd cael cipolwg ar yr heriau roedd sefydliadau yn eu hwynebu o ganlyniad i COVID 19, a chasglu eu mewnbwn i lywio ein blaenoriaethau i’r dyfodol. Rydyn ni’n nawr wedi rhyddhau adroddiad crynodol ar yr arolwg, yn cyflwyno’r canlyniadau a gafwyd. Casglodd yr arolwg farn a gwybodaeth am bynciau oedd yn amrywio o brif effeithiau Covid-19 ar eich sefydliad, i sut mae eich sefydliad wedi gallu cynnal ymgysylltiad â phlant, pobl ifanc a/neu deuluoedd, yn ogystal ag awgrymiadau ynghylch sut gall Plant yng Nghymru gefnogi gweithgareddau eich sefydliad yn ystod argyfwng Covid-19.

Gallwch chi lawrlwytho’r adroddiad llawn yma.

Hoffai Plant yng Nghymru ddiolch i’n holl ymatebwyr am roi o’u hamser i gwblhau’r arolwg hwn yn ystod cyfnod o newid sylweddol a llwyth gwaith trymach, wrth i sefydliadau addasu eu harferion yn gyflym i ymateb i’r heriau newydd oedd yn dod i’w rhan.

Defnyddir yr adroddiad i lywio’n rhaglen waith i’r dyfodol, a bydd yn cael ei rannu gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i gefnogi eu hystyriaethau parhaus wrth ymateb i effaith y pandemig ar blant a theuluoedd.