Eleni nodwyd dechrau’r daith tuag at yr archwiliad nesaf o gynnydd y llywodraeth wrth weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).  Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru wedi rhyddhau adroddiad sydd wedi ceisio nodi’r materion blaenoriaeth sy’n effeithio ar blant yng Nghymru a’r rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu wrth wireddu eu hawliau. Mae’r adroddiad yn defnyddio tystiolaeth a gafwyd gan dros 80 o sefydliadau ac unigolion trwy ddigwyddiadau ymgynghori a galwad am dystiolaeth ysgrifenedig, ac yn cydnabod, er bod cynnydd wedi’i wneud mewn rhai meysydd, bod pob plentyn, yn arbennig y rhai mwyaf agored i niwed, yn dal i wynebu lefelau aruthrol o anfantais ac anghydraddoldeb, sydd wedi gwaethygu o ganlyniad i’r pandemig.  Mae’r adroddiad, a gyflwynir i’r Cenhedloedd Unedig, yn darparu rhestr o gwestiynau i Lywodraeth Cymru ar draws 30 maes polisi sy’n effeithio ar blant, gan gynnwys Tlodi Plant, Iechyd Meddwl ac Addysg. Rydym ni’n gobeithio bydd y Cenhedloedd Unedig yn cymryd ein cwestiynau i ystyriaeth wrth gyflwyno’u hadroddiad i’r llywodraeth yn gynnar y flwyddyn nesaf.  Yn eu sylwadau ar yr Adroddiad, dywedodd aelodau o Grŵp Monitro CCUHP Cymru:

Plant yng Nghymru

Mae Plant yng Nghymru yn croesawu’r adroddiad hwn ac ymgysylltiad ystod eang o sefydliadau ac unigolion sydd wedi amlygu llawer o’r heriau a’r rhwystrau mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu wrth geisio cael mynediad i’w hawliau. Mae’r adroddiad yn ein hatgoffa’n amserol, cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai y flwyddyn nesaf, am yr angen i bob plaid wleidyddol roi blaenoriaeth i blant a phobl ifanc, ac ymrwymo i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i wella’u bywydau beunyddiol, gan sicrhau bod hawliau plant yn ganolog wrth gynllunio adferiad wedi Covid-19. (Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru)

Barnardo’s Cymru

“Mae’r pandemig wedi rhoi pwysau ychwanegol aruthrol ar y gwaith o hwyluso plant i wireddu eu hawliau. O’r herwydd mae’r cylch adrodd hwn i CCUHP yn amserol dros ben, a bydd yn cynorthwyo pawb ohonom i gynnal ffocws cyson ar yr hawliau a’r egwyddorion tywys hanfodol hyn. Mae Barnardo’s Cymru yn croesawu’r adroddiad hwn yn ei gyfanrwydd, ac yn ymddiddori’n arbennig yn sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd ar ôl galwadau ynghylch cam-drin ac ecsbloetio plant, iechyd meddwl a phrofiad plant o gymorth i deuluoedd a gofal cymdeithasol, ac yn gweithredu ar sail hynny, yn ogystal â’u defnyddio i lywio ein gwaith ninnau gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd’. (Sarah Crawley, Cyfarwyddwr,Barnardo’s Cymru)

Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru

“Mae Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru yn croesawu’r adroddiad hwn. Er bod 2021 wedi bod yn flwyddyn anodd a heriol i bawb, mae plant a phobl ifanc byddar ac anabl a’u teuluoedd wedi wynebu heriau arbennig wrth gael mynediad i gefnogaeth hanfodol o ganlyniad i’r pandemig. Wrth symud ymlaen, bydd darparu gwell cefnogaeth ar gyfer y grŵp bregus hwn yn hanfodol i leiafu effaith y pandemig yn y tymor hwy ar gyfer plant a phobl ifanc byddar ac anabl.

Rydym ni’n gwybod bod bylchau cyrhaeddiad annerbyniol wedi parhau rhwng dysgwyr byddar a’u cymheiriaid yng Nghymru – ac yn wir eu bod wedi cynyddu yn y cyfnod sylfaen. Wrth i ni nesáu at gyflwyno’r Diwygiadau ADY ym mis Medi 2021, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu nawr i dawelu pryderon ynghylch rhoi’r diwygiadau ar waith yn effeithiol, a sicrhau bod yr holl ddysgwyr cymwys yn cael mynediad at gynlluniau cefnogi. Mae perygl gwirioneddol, os caiff y ddeddfwriaeth newydd ei chamddehongli, y bydd llawer iawn o’n dysgwyr anabl agored i niwed yn syrthio trwy’r rhwyd.”

NSPCC Cymru

“Yn NSPCC Cymru rydym ni’n credu bod dull gweithredu seiliedig ar hawliau o fynd i’r afael â thrais a chamdriniaeth yn erbyn plant yn hanfodol, oherwydd bod gan bob plentyn hawl i fyw’n rhydd rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso.”

“Er ein bod yn cymeradwyo’r gwaith yng Nghymru ar agenda hawliau plant, mae’n eglur bod tipyn o ffordd i deithio o hyd. Er bod Llywodraeth Cymru wedi pasio deddfwriaeth arloesol ynghylch ataliaeth ac i wella’r amddiffyniad a’r gefnogaeth i oroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol, mae’r camau gweithredu wedi bod yn araf, ac rydym ni’n dal i bryderu’n fawr ynghylch diffyg cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol sy’n gweithio gyda phlant, gan gynnwys mynediad i, gan ac ar gyfer gwasanaethau i blant du a lleiafrifol.” (Elinor Crouch-Puzey, Uwch Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus)

Chwarae Cymru

“Mae Chwarae Cymru yn croesawu Adroddiad Cymdeithas Sifil Cymru, a gynhyrchwyd gan Grŵp Monitro CCUHP Cymru. Mae’r adroddiad yn amlygu amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar allu plant i gael mynediad i’w hawl i chwarae yng Nghymru. Mae’r argymhellion yn yr adran Chwarae a Hamdden yn cyd-fynd â barn ac atebion a awgrymwyd gan y sector chwarae a gwaith chwarae yng Nghymru. Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn nodi’r argymhellion ac yn eu symud ymlaen. Bydd hynny’n golygu bod modd i Lywodraeth Cymru barhau â’i hymrwymiad nodedig i chwarae plant, gan gydnabod cyfraniad pwysig hynny i blentyndod iach a hapus.”

Achub y Plant Cymru

“Mae Achub y Plant am i bob plentyn gael plentyndod diogel a hapus, a sicrhau eu bod nhw’n cael y dechrau gorau mewn bywyd. Ystyr hynny yw eu galluogi i wireddu pob cyfle ar gyfer eu dyfodol trwy gael mynediad at safon byw sy’n ddigonol i gyflawni eu datblygiad corfforol, meddyliol, cymdeithasol a moesol, fel y diffinnir yn Erthygl 27 o Gonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae tystiolaeth gyson, hirsefydlog sy’n dangos bod perthynas arwyddocaol rhwng yr anfantais mae plant sy’n byw mewn tlodi yn ei wynebu a deilliannau dysgu cynnar plant ifanc. Rydym ni’n croesawu lansio’r adroddiad pwysig hwn sy’n amlygu’r angen am wneud mwy o gynnydd o ran atal a lleihau tlodi ymhlith plant, ac effaith hynny ar ddysgu a datblygiad plant ifanc. Mae lleihau tlodi yn allweddol i fynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad a gwella deilliannau plant yn y blynyddoedd cynnar, gan roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn.”

UNICEF UK

“Mae gan UNICEF UK statws arsylwi gyda’r Grŵp Monitro, ac fe gyfrannodd at yr adroddiad hwn. Rydym yn gobeithio y bydd Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn a Llywodraeth Cymru yn nodi hynny. Mae cyfrifoldeb sylweddol ar yr awdurdodau datganoledig yng Nghymru am feysydd polisi sy’n effeithio ar blant, ac rydym ni’n galw arnynt i ddefnyddio’r adroddiad hwn yn sail ar gyfer gweithredu’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn mewn modd mwy effeithiol fyth. Trwy ei waith rhaglennol yng Nghymru, mae UNICEF UK yn cefnogi ffyrdd o wireddu hawliau plant trwy weithio gyda Chyngor Caerdydd i greu Dinas sy’n Gyfeillgar i Blant a gweithio gyda mwy na 450 o ysgolion i’w gwneud yn rhai sy’n Parchu Hawliau trwy wreiddio’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yn eu hymarfer a’u polisïau.”