Hoffai Plant yng Nghymru roi diweddariad pellach i chi ers i ni gyhoeddi bod ein dwy swyddfa wedi’u cau dros dro a bod ein holl staff wedi trosglwyddo’n ddiogel i weithio o bell, yn eu cartrefi.

Mae hwn yn gyfnod ansicr, na welwyd mo’i debyg, wrth i Plant yng Nghymru a’r sector ehangach ymateb ac addasu’n gyflym i’r sefyllfa sydd ohoni trwy geisio darparu gwasanaethau gwerthfawr mewn modd gwahanol, yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth a’r GIG.

Rydyn ni’n gwneud addasiadau er mwyn i gymaint â phosib o’n gwaith fedru parhau, ac yn ystod yr wythnosau sy’n dod byddwn ni’n rhoi ffyrdd newydd a chyffrous o gyflwyno ein gweithgareddau craidd ar waith, gan gynnwys ein cyfarfodydd rhwydwaith polisi ac ymarferwyr, cyrsiau hyfforddi a digwyddiadau, a’n prosiectau unigryw, yr ydym ni’n gwybod eu bod o werth a budd aruthrol i’n haelodau.

Mae’r pandemig yn golygu bod nodweddion sefydliadol craidd Plant yng Nghymru, sef cynrychiolaeth, hyrwyddo hawliau dynol plant, a siarad ag un llais, yn bwysicach nawr nag erioed o’r blaen.

Rydym am barhau i bwysleisio pwysigrwydd a manteision cydweithio a chadw mewn cysylltiad trwy wrando ar beth sydd gan ein haelodau i’w ddweud; eiriol o blaid y canlyniadau gorau posibl i blant, a rhannu’r atebion a’r adnoddau gorau posibl i gefnogi ein haelodau a’r plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd rydych chi’n gweithio gyda nhw ac yn eu cefnogi ledled Cymru.

Aelodaeth

Os yw hi’n bryd adnewyddu eich aelodaeth yn ystod y misoedd nesaf, cadwch lygad ar agor am e-bost a fydd yn cael ei anfon atoch chi’n uniongyrchol. Os hoffech chi ddod yn aelod o Plant yng Nghymru, neu os hoffech chi roi gwybod i ni sut gallwn ni barhau i sicrhau bod eich profiad aelodaeth mor gadarnhaol â phosibl, cysylltwch â’n Cydlynydd Aelodaeth a Marchnata: louise.oneill@childreninwales.org.uk

Cyfathrebu a Gwybodaeth

Rydyn ni’n dal yn gwbl ymroddedig i gryfhau’r sgiliau yn y sector er mwyn gwella plentyndod a chefnogi teuluoedd, ac mae cyfathrebu’n allweddol i’ch cefnogi ar hyn o bryd. Rydym wedi:

  • Dyblu nifer yr e-friffiadau aelodau rydyn ni’n eu cynhyrchu bob wythnos, gan deilwra’r cynnwys i sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth yn amlach o ffynonellau credadwy, y gallwch chi ymddiried ynddynt, i gefnogi eich gwaith. Bydd yr e-friffiadau hefyd yn parhau i arddangos y gwaith y mae Plant yng Nghymru yn ei gynhyrchu, yn ogystal ag adnoddau a newyddion gan ein haelodau. Os nad ydych eisoes wedi’u gweld, cadwch lygad ar agor am y rhain yn eich mewnflwch ddydd Mawrth a dydd Iau bob wythnos, er mwyn cael yr holl wybodaeth ddiweddaraf angenrheidiol. Cofiwch gadw mewn cysylltiad a rhannwch eich newyddion a’ch adnoddau gyda Sarah ac Alice yn y Tîm Cyfathrebu a Gwybodaeth trwy anfon gwybodaeth i info@childreninwales.org.uk; byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i’w chynnwys
  • Er mwyn sicrhau bod yr e-friffiadau rydyn ni’n eu cynhyrchu yn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosib, rydyn ni’n awr yn sicrhau eu bod ar gael yn gyffredinol trwy ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol, https://www.childreninwales.org.uk/news/ ac @childreninwales
  • Bydd cylchgrawn chwarterol nesaf Plant yng Nghymru yn eich cyrraedd yn electronig fel arfer, fel y bydd ein llythyr newyddion misol am Rwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru a Chymru Ifanc

Hyfforddiant a digwyddiadau

Rydyn ni eisoes yn gwneud addasiadau i gyflwyno rhai o’n cyrsiau hyfforddi o bell, er mwyn helpu i sicrhau bod ein haelodau a’r sector ehangach yn dal i gael mynediad o bell i’n rhaglen helaeth o wybodaeth a dysgu. Bydd rhagor o fanylion yn dod i law yn ystod yr wythnosau nesaf, felly cadwch lygad ar agor.

Rhwydweithiau Polisi ac Ymarferwyr

Mae bellach yn bwysicach nag erioed bod y materion sydd bwysicaf i blant, pobl ifanc a’r sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw ac ar eu rhan yn parhau i gael eu clywed gan lunwyr penderfyniadau, a’n bod yn cynnal y llais ar y cyd o’r sector plant yng Nghymru. Mae ein tîm polisi a datblygu yn parhau i gefnogi ein haelodau a gweithio ochr yn ochr â nhw wrth i ni symud at weithio o bell, ac maen nhw wedi bod yn eiriol ac yn ymgyrchu i sicrhau nad yw’r rhai sy’n fwyaf agored i niwed yn wynebu mwy o risg nac anfantais yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’n hanfodol bod hawliau plant a phobl ifanc yn parhau’n hollbwysig yn ystod y cyfnod hwn o newid.

Ein prosiectau

Bydd sut rydyn ni’n cyflwyno ein prosiectau yn newid dros dro. Er enghraifft

Mae’r prosiect Pris Tlodi Disgyblion mewn ysgolion ledled Cymru yn parhau, ac rydyn ni bellach yn archwilio, gyda’n hysgolion, ffyrdd newydd o weithio y byddwn ni’n eu mabwysiadu yn ystod yr wythnosau sy’n dod. Bydd y gwaith o Hyrwyddo’r Canllawiau hefyd yn parhau’n fwy cyffredinol.

Mae’r prosiect Paratoi, sy’n gweithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac awdurdodau lleol, yn addasu ei waith. Mae adnodd Llesiant newydd wedi cael ei gyhoeddi’n ddiweddar iawn, ac mae gwaith pellach yn y maes hwn eisoes yn cael ei gynllunio.

Mae’r prosiect Ymwneud yn fwy â Gofal Cymdeithasol wedi cynhyrchu cyfres o adnoddau ar gyfer pobl ifanc a fydd o werth mawr yn ystod y cyfnod hwn. Bydd adnoddau pellach o’r prosiect 4 blynedd yn cael eu rhyddhau’n fuan iawn.

Mae tîm Cymru Ifanc yn defnyddio’r amser yma i gynllunio ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys Cynhadledd Cymru Ifanc, Gwnewch eich Marc a’n gwaith gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddal i fyny â phawb, pan fydd hyn i gyd drosodd.

Cadw mewn cysylltiad

Bydd ein gwefan a’n llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn hanfodol i chi yn ystod y misoedd nesaf, felly peidiwch ag anghofio ein dilyn ar Twitter (@ChildreninWales) a Facebook (childreninwales) i gael ein newyddion diweddaraf, a chlywed sut mae ein rhwydwaith ehangach yn ymateb. Hefyd, gofalwch eich bod wedi rhoi eich enw i lawr i dderbyn ein holl ddiweddariadau trwy ddilyn y ddolen hon: https://www.childreninwales.org.uk/aboutus/keeping-in-touch/

Bydd ein Prif Weithredwr newydd, Owen Evans, yn ymuno â’r tim fis nesa, ac yn tywys ein gwaith yn ystod y cyfnod hwn, sydd mor heriol i bawb ohonom. Rydym ni’n edrych ymlaen at ei groesawu.

Yn olaf, hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb am eich ymroddiad cadarn a’ch cefnogaeth barhaus i flaenoriaethu gwella bywydau plant a phobl ifanc Cymru ar yr adeg gritigol hon.

Cadwch mewn cysylltiad – rhannwch – a chadwch yn ddiogel bawb!