Tlodi Plant: Ymarfer a Chyfnewid Gwybodaeth

Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn cael ei gynnal arlein trwy Teams, ac mae'n agored i weithwyr proffesiynol, gwirfoddolwyr ac ymarferwyr ledled Cymru sy'n gweithio gyda phlant, phobl ifanc a theuluoedd.  Y nod yw rhannu arferion a gwybodaeth am waith presennol er mwyn lleihau, atal neu liniaru effaith tlodi plant ar draws Cymru.

Bydd tair sesiwn ymarfer yn y bore.

Siaradwyr a Phrosiectau:
 

Sarah Quibell, Rheolwr Gwasanaethau ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Addysg, Cyngor Sir Powys

Prosiect: Datblygu Cynllun Gweithredu Tlodi Plant

Mae Cyngor Sir Powys wedi sefydlu Tasglu Tlodi Plant 'i weithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus i liniaru'r argyfwng cynyddol o dlodi plant yn ein cymunedau.'  Mae'r Tasglu traws-drefniadol wedi gweithio gyda'i gilydd, o fewn yr adnoddau presennol, i ddatblygu Cynllun Gweithredu Tasglu Tlodi Plant i gefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd ar draws Powys.

Bydd y Sesiwn Ymarfer yn archwilio sut y sefydlwyd y Tasglu, sut y lluniwyd y Cynllun Gweithredu, a'r meysydd allweddol y mae'n eu cwmpasu.

 

Adele Evans, Rheolwr Ysgolion Ffocws Cymunedol, Cyngor Sir Powys a Judith Hickey, Pennaeth, Ysgol Golwg y Cwm

Prosiect: Ysgol Ffocws Cymunedol – Gweithio gyda Gwasanaethau a Phartneriaid wedi'u cydleoli

Mae Ysgolion â Ffocws Cymunedol yn un o nodweddion allweddol Cynllun Gweithredu Tasglu Tlodi Plant Powys.  Ymddangosodd Ysgol Golwg y Cwm yn yr adroddiad "Estyn Community Schools: Families and Communities at the Heart of School Life" (Estyn 2020).

Bydd y Sesiwn Ymarfer yn ymchwilio i sut mae Ysgol Golwg y Cwm yn cydweithio â 'phartneriaid ar y cyd i fynd i'r afael â'r heriau sydd yn wynebu eu disgyblion a'u rhieni' (Estyn 2020, t34).

 

Yasmin Bell, Prif Swyddog Cyngor ar Bopeth Powys a Anwen Peters, Cyngor Sir Powys 

Prosiect: Gwasanaethau Arian a Chyngor – 'Dim drws anghywir' 

Mae gweithio traws sefydliadol yn elfen graidd o Dasglu Tlodi Plant Powys.  Bydd y Sesiwn Ymarfer yn archwilio sut mae Tîm Incwm a Gwobrau Cyngor Sir Powys a Chyngor ar Bopeth Powys yn datblygu ffordd gyfunol o ddarparu gwasanaethau a fydd o fudd i deuluoedd ym Mhowys