Gwybodaeth am gefnogaeth ariannol

Mae argyfwng presennol costau byw yn effeithio ar deuluoedd ac yn rhoi eu sefyllfa ariannol o dan bwysau. Gallai pwysau ariannol achosi straen ac effeithio ar lesiant y teulu cyfan, a gall ceisio cael hyd i ffordd trwy’r gefnogaeth sydd ar gael i helpu gyda chostau byw waethygu’r effaith. Mae’n aml yn anodd gwybod ble mae cael hyd i wybodaeth, cyngor, a chymorth ar gyfer materion ariannol a rheoli dyledion.

Isod cewch ddolenni i sefydliadau sy’n gallu darparu cyngor a gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i unrhyw un a all fod yn wynebu anawsterau ariannol a dyledion.

Gwasanaethau cyngor a chymorth

Advicelink Cymru – Cyngor ar Bopeth

Mae Advicelink Cymru yn cynnig cyngor ar fudd-daliadau lles, dyled, cyflogaeth, addysg, tai, mewnfudo a gwahaniaethu yn eich erbyn. Mae’r gwasanaeth yn helpu pobl i gael mynediad i’r cyngor cywir, ar yr adeg gywir, ac yn ei wneud yn haws iddyn nhw gael mynediad at wasanaethau eto os bydd angen mwy o help arnyn nhw.

Cymru’n Gweithio | Cymru’n Gweithio (llyw.cymru)

Mae Cymru’n Gweithio yn eich cefnogi â chyngor di-dâl, arweiniad a mynediad at hyfforddiant fydd yn eich helpu i ddechrau gweithio neu roi hwb i’ch gyrfa.

Rheoli eich arian - Dewis Cymru

Hwb gwybodaeth o sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau cymorth, gwybodaeth a chyngor yw Dewis Cymru. Mae modd chwilio am wasanaethau yn ôl ardal leol ac yn ôl y math o wasanaethau cefnogi sy’n ofynnol, megis cyngor ar dai a chefnogaeth bwyd.

Addysg

Yn aml, nid yw costau ysgol yn cael eu cyfrif, a gallant roi pwysau ar gyllidebau sydd eisoes dan straen. Mae cefnogaeth ar gael i deuluoedd a all fod yn cael trafferth gyda chostau cysylltiedig â’r ysgol, megis gwisg ysgol.

Prydau ysgol am ddim: gwybodaeth i rieni a gofalwyr | LLYW.CYMRU

Mae’n darparu gwybodaeth ynghylch cymhwysedd i dderbyn prydau ysgol am ddim, a sut mae gwneud cais amdanynt.

Grant Hanfodion Ysgol | LLYW.CYMRU

Mae’n darparu gwybodaeth am feini prawf cymhwysedd y grantiau sydd ar gael i roi cefnogaeth gyda chostau cysylltiedig ag addysg. 

Lwfans Cynhaliaeth Addysg | LLYW.CYMRU

Mae’n darparu gwybodaeth ynghylch sut mae gwneud cais am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA).

Mae’r LCA ar gael i bobl ifanc sy’n hŷn nag oed ysgol gorfodol, 16-18 oed, sy’n astudio ar gwrs academaidd neu alwedigaethol amser llawn.

Treth Cyngor

Disgownt a gostyngiadau Treth Cyngor | LLYW.CYMRU

Codir Treth Cyngor ar bob cartref, ac mae’n cymryd i ystyriaeth amgylchiadau unigolyn neu aelwyd. O dan rai amgylchiadau gallai’r bil treth cyngor gael ei leihau. Yma cewch wybodaeth am gymhwysedd i gael gostyngiad ar eich treth cyngor, ac mae’n cynnwys dolenni i bob awdurdod lleol, fydd yn gallu helpu os ydych chi’n meddwl eich bod o bosib yn talu gormod o dreth cyngor.

Gofal plant

Cynnig Gofal Plant Cymru | Help gyda Chostau Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU

Os oes gennych chi blant 3-4 oed, gallech chi fod yn gymwys i gael cymorth gyda gofal plant. Gallech chi hawlio hyd at 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant. Yma cewch wybodaeth ynghylch cymhwysedd i gael cymorth gyda chostau gofal plant, a gwybodaeth am sut mae gwneud cais am y cynnig gofal plant.   

Tai

Cyngor ar dai - Shelter Cymru

Mae Shelter yn rhoi gwybodaeth a chyngor ar faterion tai, o reoli dyled, cael eich troi allan, cael hyd i rywle i fyw, a gwaith atgyweirio ac amodau byw gwael. Cewch hyd i wybodaeth a chyngor ar-lein, neu gallwch gysylltu â’u llinell gymorth ar 08000 495 495.

The Wallich | Elusen Digartrefedd a chysgu allan yng Nghymru

Mae The Wallich yn cefnogi pobl sy’n wynebu digartrefedd neu sy’n ddigartref. Mae ganddyn nhw dimau ymroddedig sy’n gallu rhoi cefnogaeth a chyngor gyda materion tai. Yma cewch wybodaeth am y gwasanaethau a’r prosiectau mae The Wallich yn eu darparu, a dolenni i sefydliadau eraill sy’n rhoi help a chyngor gyda digartrefedd, a chefnogaeth emosiynol.   

Bydd gan bob un o’r 36 cymdeithas tai neu landlord cymdeithasol cofrestredig (sy’n cael eu rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru) gyngor, cefnogaeth a gwybodaeth ar eu gwefannau i gefnogi eu tenantiaid gyda chostau byw a rheoli arian. Byddan nhw hefyd yn rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl sy’n chwilio am dai. Cewch hyd i restr o gymdeithasau tai a landlordiaid cofrestredig yng Nghymru yma Cymdeithasau Tai | Tai Cymunedol Cymru (chcymru.org.uk)

Llywodraeth Cymru – Cymorth gyda chostau byw

Help gyda chostau byw | LLYW.CYMRU

Yma cewch ddolenni i gefnogaeth ariannol sydd ar gael i helpu gyda chostau byw cynyddol. Enghreifftiau o hynny yw budd-daliadau, biliau cyfleustodau a threth cyngor, dyled ac arian, tai, addysg a gofal plant, a iechyd a llesiant. Cewch hefyd ddolen i wasanaethau cefnogi awdurdodau lleol.

Cronfa Cymorth Dewisol (DAF) | LLYW.CYMRU

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cronfa cymorth dewisol ar gyfer unigolion a all fod yn profi caledi ariannol. Mae’r DAF yn darparu 2 fath o grant:

Taliad Cymorth mewn Argyfwng (EAP):

Grant fydd yn helpu i dalu am gostau hanfodol, megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio brys

Taliad Cymorth Unigol (IAP):

Grant i’ch helpu chi neu rywun rydych chi’n gofalu amdanynt i fyw’n annibynnol yn eu cartref neu mewn eiddo yr ydych chi neu nhw yn symud i mewn iddo.

Banciau Bwyd

The Trussell Trust - Stop UK Hunger

Mae Trussell Trust yn darparu gwybodaeth am fanciau bwyd a’u lleoliad, a sut mae cael mynediad iddyn nhw. Mae modd darparu talebau banc bwyd trwy ysgolion, meddygfeydd, ymwelwyr iechyd, ac asiantaethau cyngor, megis cyngor ar bopeth.

Adnoddau

Prosiect Paratoi | Plant yng Nghymru

Mae’r Prosiect Paratoi yn cefnogi pobl ifanc i bontio’n ddiogel o ofal ac yn hybu gwydnwch a mecanweithiau sy’n eu cadw’n ddiogel rhag digartrefedd a’r risgiau cysylltiedig, gan wella’u llesiant cyffredinol.  

Fel rhan o’r prosiect datblygwyd cyfres o adnoddau i wella gwybodaeth a dealltwriaeth pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal o’u hawliau a’r pethau dylen nhw eu derbyn wrth gynllunio ar gyfer gadael gofal. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyllidebu, budd-daliadau a’r pethau gallan nhw eu hawlio, a chynghorion wrth siopa am fwyd.

Cefnogi llesiant

Yn aml gall straen ariannol a dyled effeithio ar iechyd meddwl a llesiant. Mae cefnogaeth ar gael i unrhyw un a all fod yn cael trafferth ymdopi o ran iechyd meddwl a llesiant.

dewis.cymru

Dewch o hyd i sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai eich helpu. Mae Dewis yn darparu manylion cyswllt ar gyfer ystod eang o wasanaethau cefnogi a gwybodaeth.

Llinell Gymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L. – Llinell Cyngor Cymunedol a Gwrando (callhelpline.org.uk)

Mae C.A.L.L. yn darparu gwasanaeth llinell gymorth am ddim (0800 132 737) a negeseuon testun (81066).  Maen nhw’n rhoi cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth am faterion iechyd meddwl a chysylltiedig.

Cyngor clir, ymarferol i Gymru: Cyngor ar Iechyd Meddwl ac Arian (mentalhealthandmoneyadvice.org)

Mae cyngor ar iechyd meddwl ac arian yn rhoi cyngor a chefnogaeth clir, ymarferol i bobl sy’n cael anawsterau o ran iechyd meddwl ac arian.

Samaritans | Mae pob bywyd a gollir i hunanladdiad yn drychineb | Yma i wrando

Os ydych chi’n cael trafferth ymdopi ac angen siarad â rhywun, gallwch chi ffonio’r Samaritans am ddim ar 116 123.  I gael cefnogaeth yn Gymraeg ffoniwch 0808 164 0123

Meic  

Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Mae’r help a roddir gan y gwasanaeth yn amrywio o gael hyd i wasanaethau lleol sy’n gallu cefnogi llesiant i siarad trwy sefyllfaoedd anodd. Maen nhw’n darparu gwasanaeth sgwrsio ar-lein, ffôn a thecst.