Sefydlwyd ers meitin y dylai pob plentyn gael gwrandawiad, ond gall gwneud hynny’n ymarferol fod yn heriol, yn enwedig yn y Blynyddoedd Cynnar. Mae’r poster Hawliau yn y Blynyddoedd Cynnar yn rhoi trosolwg o’r elfennau allweddol sy’n angenrheidiol i ddarparu amgylchedd cadarnhaol, seiliedig ar hawliau, ac mae gwrando’n allweddol, yn ogystal â pherthnasoedd cadarnhaol ac amgylchedd diogel, anogol.
Mae gwrando’n golygu cael hyd i ffyrdd o gyfathrebu a chanfod cyfleoedd, technegau a dulliau i blant fynegi eu barn. Ariannodd Llywodraeth Cymru brosiect ar raddfa fach i ganiatáu i Plant yng Nghymru ymchwilio a chael hyd i ffyrdd o wrando ar fabanod a phlant ifanc iawn, a threialu rhai dulliau gweithredu gyda’r canlynol:
· Babanod (0-1 oed)
· Plant Bach (1-2 oed)
· Plant cyn ysgol (3-4 oed)
Mae’r fideos a’r adnoddau hyfforddi sy’n dilyn yn rhoi trosolwg o’r prosiect ac yn fan cychwyn ar gyfer cefnogi’r broses o glywed llais babanod a phlant ifanc iawn.
Sut mae Gwrando ar Fabanod Sut mae Gwrando ar Blant Bach Sut mae Gwrando ar Blant cyn Ysgol
Rydyn ni hefyd wedi cynhyrchu ystod ehangach o adnoddau, yn cwmpasu rhagor o erthyglau CCUHP a sut gallwn ni gefnogi hawliau yn y tri chategori oed penodol.
Cefnogi Hawliau Babanod Cefnogi Hawliau Plant Bach Cefnogi Hawliau Plant cyn Ysgol
Yn unol â’r cwricwlwm newydd nas cynhelir, mae’r adnoddau canlynol yn creu cysylltiadau penodol ac yn cefnogi dealltwriaeth ymarferwyr.
Adnodd Cwricwlwm ar gyfer Plant cyn Ysgol
Cewch ragor o wybodaeth ac adnoddau ar y pwnc hwn, ynghyd â phosteri gwych fydd yn ennyn trafodaeth, yn: www.voicebirthtoseven.co.uk Edrychwch Pwy sy’n Siarad: Canfod Lleisiau Plant o’u Geni hyd at Saith Oed Maen nhw’n cynnwys: Llais; Democratiaeth; Diwylliant; Gwrando â Phwrpas; Gofod a Lle; Sgiliau ac Offer; Galluogi a Meithrin Capasiti.
“clywed lleisiau o’u geni”
“perthnasoedd yw’r elfen allweddol”
“Mae lleisiau’n dod ynghyd mewn gwahanol ffyrdd”
“Cyfle i newid cwrs bywyd plentyn”
Yn y byd digidol sy’n tyfu’n barhaus, mae angen i ni sicrhau bod hawliau pob plentyn, hyd yn oed yr ifancaf, yn cael eu parchu, eu diogelu a’u cyflawni yn yr amgylchedd digidol
Poster Hawliau Digidol Plant
Os hoffech chi wybod mwy am y prosiect hwn neu Hawliau yn y Blynyddoedd Cynnar, cysylltwch ag Anna Westall – Swyddog Polisi anna.westall@childreninwales.org.uk
Ariannir yr adnoddau hyn gan Lywodraeth Cymru. Barn yr awdur a fynegir yn yr adnoddau hyn, ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn yr ariannwr