Mae Plant yng Nghymru am ymgysylltu â phlant a phobl ifanc sydd wedi cael profiadau byw o redeg i ffwrdd/mynd ar goll o gartref neu ofal. Hoffem siarad â nhw am eu profiadau a pha gymorth a gawsant ar ôl dychwelyd. Mae hyn yn rhan o brosiect ymchwil ar gyfer Llywodraeth Cymru, sydd eisiau gwybod gan blant a phobl ifanc, sut y gellir eu cefnogi orau i gael y cymorth cywir ar yr amser iawn, ar ôl cyfnod o fynd ar goll. Mae hwylusydd profiadol a phroffesiynol, sy’n ymgynghorydd gyda Plant yng Nghymru, yn arwain yr ymchwil.

Byddwn yn ymgysylltu â phobl ifanc trwy grwpiau ffocws, cyfweliadau 1 i 1 a thrwy arolwg ar-lein. Gallwn gynnig cymhellion iddynt gymryd rhan mewn grwpiau ffocws a chyfweliadau.

Os ydych yn gweithio i gefnogi plant a phobl ifanc yng Nghymru a allai fod wedi mynd ar goll, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ofyn iddyn nhw gwblhau ein harolwg byr ar-lein.  Byddai eu mewnbwn yn cael ei werthfawrogi'n fawr.

Gellir gweld yr arolwg ar-lein yma

Os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch, mae croeso i chi gysylltu cheryl@brookeconsultancyandtraining.walesSian.bibey@childreninwales.org.uk