MAE CYMRU IFANC YN CHWILIO AM BOBL IFANC I YMUNO Â'N BYRDDAU A'N GRWPIAU

Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc, rhannwch y cyfle cyffrous hwn. Mae Cymru Ifanc yn chwilio am bobl ifanc i ymuno â'i byrddau a'i grwpiau. Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan ynddi. Mae gwrando ar bobl ifanc a chlywed ei lleisiau yn rhan allweddol o Gymru Ifanc. Rydym yn cefnogi pobl ifanc i ddweud eu dweud ar faterion a allai effeithio ar fywydau nhw. Mae Cymru Ifanc yn croesawu ceisiadau gan bob person ifanc i gymryd rhan achos rydym wedi ymrwymo i gynrychioli amrywiaeth o bobl ifanc yng Nghymru.

 

Fel aelod o Fyrddau a Grwpiau Cymru Ifanc, bydd pobl ifanc yn cael cyfleoedd i:

• Cwrdd â ffrindiau newydd

• Cael hwyl

• Cwrdd ag Aelodau'r Senedd a Swyddogion Llywodraeth Cymru

• Cymryd rhan mewn Ymgynghoriadau

• Mynychu preswylwyr

• Dysgu sgiliau a hyfforddiant newydd

• Gwirfoddoli

• Mynychu digwyddiadau fel Gŵyl Flynyddol Cymru Ifanc

• Cynrychioli Cymru Ifanc mewn digwyddiadau Cenedlaethol

• Cyd-gynhyrchu prosiectau

• Hyrwyddo gwaith Cymru Ifanc drwy ein Cylchlythyr, ein gwefan a'n cyfryngau cymdeithasol

• Yn ogystal â llawer mwy...

 

Gwahoddir pob aelod newydd a phresennol i fynychu hyfforddiant a phreswyl cynefino llawn ar ddydd Gwener y 6ed o Fai i ddydd Sul yr 8fed o Fai 2022. Yn ystod y cyfnod preswyl cewch gyfle i gofrestru gyda thelerau o gyfeirio eich bwrdd neu grŵp a hefyd dderbyn calendr o gyfarfodydd a digwyddiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod.  Darperir yr holl lety, cludiant a bwyd. Bydd opsiynau i ymuno'n rhithwir os na allwch fynychu'n wyneb wrth wyneb a bydd croeso i weithwyr cymorth fynychu hefyd.

 

Mae gennym 5 bwrdd a grŵp ar gael i bobl ifanc ymuno:

·         Bwrdd Prosiect Cymru Ifanc
Mae'r Bwrdd yn gweithio i roi cyngor a chraffu ar Gymru Ifanc a'i holl feysydd gwaith o safbwynt person ifanc.
11 i 18 oed
Cynhelir cyfarfodydd ar-lein neu'n wyneb wrth wyneb yn chwarterol ar ddydd Sadwrn
Mae Aelodaeth yn para am 2 flynedd
Mae gan Aelodau cyfle i gofrestru am flwyddyn ychwanegol fel mentor cyfoedion

·         Grŵp Diddordeb Arbennig Addysg a Chyfiawnder Cymdeithasol
Mae'r Grŵp yn gweithio i roi cyngor ac adborth i Weinidogion a Swyddogion Llywodraeth Cymru ar bolisïau a deddfwriaeth addysg a chyfiawnder cymdeithasol.
11 i 18 oed
Cynhelir cyfarfodydd ar-lein neu'n wyneb wrth wyneb ar nosweithiau Mercher dengwaith y flwyddyn
Mae'r aelodaeth yn para am flwyddyn a gellir ei hadnewyddu'n flynyddol

·         Grŵp Diddordeb Arbennig Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'r Grŵp yn gweithio i roi cyngor ac adborth i Weinidogion a Swyddogion Llywodraeth Cymru ar bolisïau a deddfwriaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
11 i 18 oed
Cynhelir cyfarfodydd ar-lein neu'n wyneb wrth wyneb ar noswaith Mercher pob ddeufis
Mae'r aelodaeth yn para am flwyddyn a gellir ei hadnewyddu'n flynyddol

·         Grŵp Diddordeb Arbennig Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Mae'r Grŵp yn gweithio i roi cyngor ac adborth i Weinidogion a Swyddogion Llywodraeth Cymru ar bolisïau a deddfwriaeth newid yn yr hinsawdd a materion gwledig.

11 i 18 oed

Cynhelir cyfarfodydd ar-lein neu'n wyneb wrth wyneb ar noswaith Mercher pob deufis

Mae'r aelodaeth yn para am flwyddyn a gellir ei hadnewyddu'n flynyddol

·         Grŵp Rhanddeiliad Ieuenctid Cenedlaethol

Arweinir gan bobl ifanc ledled Cymru. Maent yn mynd i'r afael â materion iechyd meddwl ac yn adolygu mentrau iechyd meddwl a lles gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ledled Cymru.

14 i 25 oed

Cynhelir cyfarfodydd ar-lein neu'n wyneb wrth wyneb ar ddydd Sadwrn yn fisol

Mae aelodaeth yn para am 2 flynedd a gellir ei hadnewyddu'n flynyddol

 

Os ydych yn gweithio gydag unrhyw bobl ifanc a hoffai gofrestru, rhannwch y ddolen hon gyda nhw i lenwi ein ffurflen gais byr drwy glicio yma

Dyddiad Cau Dydd Gwener y 1af o Ebrill 2022

 

Byddwn yn cadarnhau aelodaeth y bwrdd neu'r grŵp erbyn dydd Gwener yr 8fed o Ebrill 2022.

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: tegan.waites@childreninwales.org.uk

 

'Cael llais, cael dewis.'