Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu Cyllideb Ddrafft ar gyfer 2020/21, ac er gwaethaf yr ansicrwydd ynghylch ei chymeradwyo yn dilyn yr etholiad cyffredinol diweddar, mae’r drafft yn cynnwys camau addawol tuag at atebion i dlodi, a’i effeithiau posibl ar addysg plant Cymru.

Ymhlith y polisïau sy’n rhan o’r Gyllideb Ddrafft mae:

  • Cynnyddo £48miliwn i ariannu’r grant tai cymdeithasol
  • £14miliwn arall o gyllid ar gyfer colegau addysg bellach
  • £2.8miliwn ychwanegol posibl ar gyfer y darpariaethau newyn gwyliau ysgol

Mae’r Gyllideb Ddrafft lawn a gyhoeddwyd ar gyfer 2020/21 i’w gweld yma.