Cyn dechrau pandemig y Coronafeirws, roedd dros 1 o bob 4 plentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Roedd pobl o rai grwpiau ethnig, plant, pobl anabl, rhieni sengl, gofalwyr, pobl oedd yn byw mewn tai preifat ar rent neu’n gweithio mewn rhai sectorau, i gyd yn fwy tebygol o brofi tlodi.  Ers mis Mawrth 2020, mae tystiolaeth a gafwyd o waith ymchwil a wnaed gan nifer o sefydliadau yng Nghymru wedi awgrymu bod lefelau tlodi plant wedi codi ac y bydd hynny’n parhau o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig.  Roedd ein harolwg yn ceisio darganfod sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio ar deuluoedd incwm isel a difreintiedig.  O ystyried y gwaith ymchwil helaeth sydd eisoes wedi digwydd yng Nghymru, ein nod oedd llenwi’r bylchau yn ein gwybodaeth, yn benodol ynghylch ansicrwydd bwyd; cynhwysiad digidol; ac incwm a chyflogaeth, a defnyddio’r canfyddiadau i lywio newid polisi yng Nghymru.