Prosiect sy’n cael ei arwain gan Plant yng Nghymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru yw Cyswllt Rhieni Cymru. Mae’n canolbwyntio ar rymuso lleisiau rhieni a gofalwyr er mwyn hybu hawliau plant.  

Fel rhan o’r gwaith hwn, rydyn ni wedi creu a dylunio Hwb Ar-lein ‘Cyswllt Rhieni Cymru’, a lansiwyd yn swyddogol mewn gweminar ar 27 Chwefror 2024.  

Gallwch weld y ganolfan yma: Plant yng Nghymru | Hwb Cyswllt Rhieni Cymru 

Lluniwyd yr Hwb i fod yn adnodd defnyddiol i rieni a gofalwyr ledled Cymru, trwy roi iddyn nhw gynghorion, arweiniad a’r diweddaraf am ein prosiectau ni a gwaith arall a allai fod o fudd iddyn nhw.  

Mae hefyd yn offeryn gwych ar gyfer sefydliadau sy’n awyddus i ymgysylltu â rhieni a gofalwyr, gydag adnoddau a gynhyrchwyd ar y cyd gan Gyswllt Rhieni Cymru trwy ddefnyddio grwpiau ffocws gyda’r Rhwydwaith Rhieni yng Nghaerffili.  

Diolch i bawb a ddaeth i weminar y lansio, a diolch yn arbennig i’n siaradwyr gwadd o EYST Cymru, Datblygu Chwaraeon Torfaen a KidCare4U, sydd i gyd yn bartneriaid gweithredol i’r prosiect. 

Mae ystod o adnoddau’n fyw ar yr Hwb, yn cynnwys: 

  • Oriel ffotograffau o’r cynigion yn y gystadleuaeth ‘Bywyd rhiant’ 

  • Gwasanaethau cefnogi rhianta yn holl awdurdodau lleol Cymru  

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) 

  • Hanesion fideo bywyd go iawn rhieni o’r Rhwydwaith Rhieni yng Nghaerffili 

Peidiwch ag anghofio ymweld â’r Hwb newydd ar-lein i archwilio’r adnoddau a’r wybodaeth sydd nawr ar gael!  

Mae’r prosiect hefyd wedi creu ffurflen fer er mwyn i weithwyr proffesiynol fedru ymuno â Chyfeirlyfr Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Rhieni Cymru. Bydd hynny’n golygu bod modd i’r prosiect gasglu gwybodaeth i gefnogi rhwydweithio a gweithio mewn partneriaeth. 

I ymuno â’r cyfeirlyfr proffesiynol, cliciwch ar y ddolen isod: 

Fforwm Proffesiynol Cyswllt Rhieni Cymru (office.com) 

 

PCWHub Welsh.png