Mae Plant yng Nghymru yn aelod o Dileu Digartrefedd Ieuenctid (End Youth Homelessness) Cymru.

Yn ôl yr ystadegau swyddogol, mae digartrefedd yn effeithio ar bron 8,000 o bobl ifanc y flwyddyn yng Nghymru. Mae Dileu Digartrefedd Ieuenctid Cymru (EYHC) yn gynghrair o sefydliadau, o dan arweiniad Llamau, sydd wedi addo mynd i’r afael â’r mater hwn a sicrhau bod digartrefedd ieuenctid yn ddigwyddiad prin a byr, nad yw’n rheolaidd.  I gyflawni’r nod hwnnw, rhaid i ni sicrhau bod ein systemau yn gweithio i bawb ac nad oes neb yn cael ei anghofio. I’r diben hwnnw, cafodd astudiaeth ymchwil o dan arweiniad ieuenctid ei lansio’n ddiweddar i edrych ar y cysylltiadau rhwng y system ofal a digartrefedd ieuenctid. Gwyddom fod pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael eu gorgynrychioli’n anghymesur yn y system ddigartrefedd ac mae adroddiad Peidiwch â Gadael i mi Syrthio drwy’r Craciau: Digartrefedd ymhlith Pobl Ifanc â Phrofiad o Ofal yng Nghymru yn rhoi rhai atebion clir i ni i’r broblem hirfaith hon. Mae’r adroddiad yn rhannu meddyliau pobl ifanc ddigartref ledled Cymru am sut mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael eu siomi gan y systemau a ddylai fod yn eu hamddiffyn. Yn fwyaf pwysig, mae’r bobl ifanc hyn wedi rhoi’r syniadau sydd eu hangen arnom i ddatrys y problemau hyn.  Gwnaed gwaith sylweddol yn barod yng Nghymru ar fater digartrefedd ymhlith pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal – yn wir, mae’r gweithiau blaenorol ar y mater yn rhwystredig o swmpus, ond mae’r broblem yn parhau heddiw. Er bod cynnydd wedi’i wneud, yn sicr, dros y blynyddoedd, mae’n amlwg bod mwy o le i wella o hyd.  Nid yw hynny’n golygu bod y gwaith blaenorol ar y mater yn amherthnasol. I’r gwrthwyneb: nod dogfen Barnardo’s ‘Fframwaith Llety a Chymorth i Ymadawyr Gofal yng Nghymru’ (2016), er enghraifft, yw helpu sefydliadau sy’n gweithio i gael llety i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, ac mae’n amlwg yn offeryn gwerthfawr iawn os bydd awdurdodau lleol yn ei ddefnyddio i helpu i gydlynu eu gwahanol wasanaethau. Un o’r prif argymhellion yn ein hadroddiad oedd bod angen ailedrych ar y mater hwn.  Felly, a oedd wir angen rhagor o waith ynghylch profiad o ofal a digartrefedd ieuenctid? Oedd yw’r ateb, gwaetha’r modd. Yn ein gwaith ymchwil, gwelsom fod llawer o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn pontio’n llwyddiannus rhwng gofal a byw yn annibynnol, ond mae rhai yn parhau i syrthio drwy’r craciau, gwaetha’r modd, ac yn profi trawma digartrefedd.  Mae EYHC yn bodoli yn bennaf i chwyddo lleisiau pobl ifanc, yn enwedig yn ein gwaith ymchwil. Dechreuson ni drwy gyd-ddylunio’r gwaith ymchwil a threfnu bod y cyfweliadau’n cael eu cynnal gan chwech o ymchwilwyr cymheiriaid sydd â phrofiad o ofal ac a fu’n ddigartref eu hunain. Cynhaliwyd cyfweliadau â 27 o bobl ifanc ar draws Cymru, rhwng Hydref 2019 a Mawrth 2020. Roedd y cyfranogwyr yn cael neu wedi cael profiad o’r mathau gwaethaf o ddigartrefedd, gan gynnwys bod yn ddigartref ac ar y stryd, cysgu ar y llawr neu aros mewn llety brys arall anaddas. Esboniodd Lewys, sy’n 20 oed, ei brofiad ef o fod yn ddigartref ac ar y stryd:

“Roedd hi’n ganol gaeaf, roedden ni’n eistedd yn y babell yma ac roedd hi fel bola buwch. Wnes i ddim sylweddoli mod i wedi codi’r babell ar bwys ymyl y ffordd a buodd hi’n bwrw hen wragedd a ffyn yn y nos ac felly roedd y babell a phopeth yn wlyb stecs. Wnes i ddihuno a doeddwn i braidd yn gallu anadlu, roeddwn i mor oer ac yn wlyb at y croen”.

Y profiadau sy’n cael eu rhannu gan bobl ifanc fel Lewys sy’n gyrru ein gwaith ar y mater hwn. Maen nhw’n ein hatgoffa am ein cyfrifoldeb ar y cyd dros sicrhau bod pobl ifanc sydd mewn gofal yn cael bargen deg mewn bywyd. Os yw person ifanc fel Lewys sydd â phrofiad o dderbyn gofal a bod yn ddigartref ac ar y stryd yn barod i rannu’i drawma er mwyn gwella bywydau pobl ifanc eraill, mae cyfrifoldeb arnom ni i wrando arno a gweithredu ar yr hyn mae’n gofyn amdano.
Un o’r pethau mawr roedd pobl ifanc fel Lewys yn gofyn amdano oedd ychydig o gymorth a noddfa pan fydd bywyd yn mynd o chwith. I’r rhan fwyaf ohonom, sydd heb dyfu i fyny mewn gofal, os oedd perthynas yn chwalu neu rwystr arall mawr o’n blaen pan oeddem yn ifanc, roedd modd i ni fynd yn ôl adref, i gael ein gosod yn ôl ar ein traed a chael ein gwynt atom. Nid yw’r dewis hwn ar gael i bobl ifanc sydd wedi gadael gofal. O’r herwydd, rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried ‘hawl i ddychwelyd i ofal’ ar gyfer pobl ifanc.
Wrth wneud yr argymhellion hyn, rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r cyd-destun a’r pwysau sydd ar wasanaethau a pha mor gyflym mae lleoliadau maethu yn cael eu llenwi, ond mae’n rhaid i ni wneud mwy dros bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Rhaid iddyn nhw fod yn flaenoriaeth i ni – yn aml iawn does ganddyn nhw neb arall.
Daeth themâu eang i’r golwg yn y gwaith – heriau iechyd meddwl (a heriau mwy eto o ran cael mynediad at gymorth), unigrwydd, arwahanrwydd. Wrth ddarllen yr adroddiad, cawn y teimlad uwchlaw popeth arall fod cymdeithas wedi newid, ond nad yw ein systemau gofal a thai wedi mynd yn ddigon pell bob amser i adlewyrchu’r newidiadau hyn. Yn y Deyrnas Unedig, 25 bellach yw cyfartaledd oed pobl ifanc sy’n gadael cartref, ond mae disgwyl i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal adael cartref a hwythau ond yn 18 oed (gan dderbyn bod cynllun Pan fydda i’n Barod yn cynnig cyfle i ohirio hynny). Mae’r ymchwil yn disgrifio digwyddiad ‘ymyl y dibyn’ pan fydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn gorfod gadael gofal ar eu pen-blwydd yn 18 oed neu oddeutu hynny p’un a ydyn nhw’n teimlo’n barod ac wedi’u paratoi ar gyfer hynny neu beidio. Roedd Alys, 22 oed, yn crynhoi profiadau llawer o bobl ifanc:

“Doeddwn i ddim yn barod i adael fy hostel ond roedd rhaid i mi fynd oherwydd fy oed. Doeddwn i ddim yn barod. Rwy’n cael gweithiwr cymdeithasol, sy’n 24 oed ac yn dal i fyw gartref gyda’i mam yn gefn iddi, yn dweud bod rhaid i mi fyw ar fy mhen fy hun. Dim diolch, blodyn. Cer adre at dy fam a gad i mi aros fan hyn”

Mae dwsinau o straeon eraill tebyg yn britho adroddiad Peidiwch â Gadael i mi Syrthio drwy’r Craciau … Mae llawer ohonyn nhw’n gwbl ingol. Nid ysgrifennu adroddiad ingol oedd ein bwriad, ond mae’n adlewyrchu’r profiadau y cawson ni’r fraint o glywed amdanyn nhw gan y bobl ifanc. Cawson nhw eu rhannu er mwyn i ni eu mwyhau a gwneud gwahaniaeth yn y dyfodol ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Dywedodd un person ifanc “does dim ots beth rwy’n ei ddweud, fydd neb yn gwrando arna i”. Fel cyfwelydd, edrychais i fyw ei lygaid a dweud “bydd yr adroddiad yn gwneud gwahaniaeth. Fydd e ddim yn eistedd mewn llyfrgell, bydd e’n gwneud gwahaniaeth”. Aeth y 27 o bobl ifanc ofalgar, garedig a rhyfeddol hyn ati i rannu eu trawma er mwyn ein harfogi ni â’r wybodaeth i atal pobl ifanc eraill rhag diodde’r un profiadau. Roedd yr 13 o argymhellion yn yr adroddiad hwn yn deillio o’r profiadau trawmatig hynny ac mae gennym gyfrifoldeb i’r rhai a fu’n ein helpu i’w llywio i sicrhau eu bod nhw’n cael effaith.

Mae Plant yng Nghymru yn darparu adnoddau a gweithdai ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal wrth iddyn nhw bontio rhwng gofal ac annibyniaeth fel rhan o’r Prosiect Paratoi. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o gynghrair sefydliadau Dileu Digartrefedd Ieuenctid Cymru (EYHC) a hoffem ddiolch i Jemma Bridgeman, EYHC, am ysgrifennu’r erthygl hon.