Grŵp Ieuenctid Cadw’n Ddiogel Ar-lein – cyfle gwych i bobl ifanc godi llais am faterion ar-lein sy’n effeithio arnyn nhw

Pwy rydyn ni’n awyddus i recriwtio?

Rydyn ni’n gwahodd ceisiadau gan ystod eang o bobl ifanc 13-16 oed sy’n:

· actif ar-lein ac yn credu’n angerddol mewn gwneud y rhyngrwyd yn amgylchedd mwy diogel i bawb

· barod i rannu eu syniadau a chynrychioli eu cymuned

· gyfforddus yn trafod profiadau cadarnhaol a negyddol pobl ifanc ar-lein, mewn lle diogel, gan gynnwys unrhyw anawsterau a phryderon y gallan nhw a’u cyfoedion fod yn eu profi

 

Beth bydd y grŵp yn ei wneud?

Mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu manteisio’n llawn ar fod ar-lein, ond hefyd yn gallu delio ag unrhyw broblemau byddan nhw’n eu hwynebu.

Pobl ifanc yw’r arbenigwyr yn y maes hwn, felly mae’n bwysig eu bod nhw’n rhan o benderfynu sut gall Llywodraeth Cymru gynnig cymorth a gwybodaeth.

 

Bydd y grŵp yn trafod pynciau diogelwch ar-lein a’u perthnasedd, yn ogystal ag agweddau da a drwg ar fod ar-lein fel person ifanc.
Byddan nhw hefyd yn rhoi syniadau ynghylch pa gyngor a chefnogaeth bellach allai helpu pobl ifanc i gadw’n ddiogel ar-lein.

 

Gofynnir i’r grŵp wneud y canlynol:

· rhoi adborth ar yr wybodaeth sy’n cael ei darparu ar hyn o bryd yn ardal ‘Materion a phryderon ar-lein’ Hwb

· awgrymu pynciau ychwanegol y gellid eu hychwanegu

· rhoi mewnbwn creadigol ar sut gallai’r tudalennau gael eu gwneud yn fwy deniadol/priodol i bobl ifanc.

 

Mae hwn yn gyfle unigryw i ymwneud yn uniongyrchol â helpu i ddylanwadu ar weithgarwch a chynllunio Llywodraeth Cymru ynghylch diogelwch ar-lein yn y dyfodol, ac i ddweud wrthyn ni sut brofiad yw bywyd ar-lein i bobl ifanc mewn gwirionedd. Bydd aelodau o’r grŵp yn gallu siarad yn uniongyrchol â’r tîm yn

Llywodraeth Cymru i drafod beth yw’r ffordd orau o gefnogi plant a phobl ifanc gyda’u diogelwch ar-lein.

 

Os ydych chi’n berson ifanc sydd â diddordeb mewn cymryd rhan, neu os ydych chi’n gwybod am berson ifanc sydd, dilynwch y ddolen hon i gyflwyno cais: https://forms.office.com/r/4AvfMLPKq1

Dyddiad cau: 21 Hydref 2022.

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os oes angen cymorth gyda’ch cais, cysylltwch ag Elaine ar: elaine.speyer@childreninwales.org.uk neu gallwch chi ffonio, tecstio neu ddefnyddio WhatsApp: 07494 208572.