Croeso i #DdiwrnodGweithreduGofalwyrIfanc – 16 Mawrth 2021.

Mae gofalwyr ifanc yn blant neu’n bobl ifanc sy’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ofalu am aelod o’r teulu. Gallai’r aelod o’r teulu fod yn dioddef o broblemau iechyd corfforol neu feddyliol, anabledd neu broblemau cyffuriau ac alcohol.

Mae Plant yng Nghymru wedi bod yn gwneud gwaith yn ymwneud â gofalwyr ifanc ers 2002, pan gawsom wahoddiad i ymuno â Grŵp Cynghori Llywodraeth Cymru ar Strategaeth Gofalwyr, i edrych ar sut y gallai gofalwyr ifanc gymryd rhan weithredol yn y gwaith o gynhyrchu’r Strategaeth. Mae Plant yng Nghymru yn credu bod gwaith i gefnogi gofalwyr ifanc yn hanfodol gan fod y bobl ifanc hyn yn aml yn guddiedig. Efallai na fydd gofalwyr ifanc yn cydnabod bod eu rôl o fewn y teulu yn wahanol i blant a phobl ifanc eraill, ond yn aml mae ganddynt feichiau corfforol a seicolegol sylweddol. Os hoffech ddysgu mwy am ein gwaith gyda gofalwyr ifanc, anfonwch e-bost at: sean.oneill@childreninwales.org.uk

Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus, rydym wedi datblygu hyfforddiant ar-lein ar gyfer Gyrfa Cymru lle rydym yn archwilio sut rydym yn diffinio Gofalwyr Ifanc, eu rolau, y darlun ledled Cymru, eu hawliau a’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Mae ymarfer tebyg ar y gweill gyda Chyngor Sir Penfro a’r ysgolion cynradd ac uwchradd yn yr ardal honno. Rydym yn edrych ymlaen at godi’r materion y mae Gofalwyr Ifanc ac Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr yn eu profi, yn enwedig yng ngoleuni’r pandemig. Cysylltwch â ni os hoffech i ni ddatblygu cwrs hyfforddi pwrpasol wedi’i deilwra’n bwrpasol ar gyfer eich gwasanaeth neu’ch Sir: training@childreninwales.org.uk

Yn barod ar gyfer Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc, mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr hefyd wedi datblygu llawer o adnoddau am ddim i’ch helpu i gymryd rhan, ac maent ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg drwy ddilyn y ddolen hon: Adnoddau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol – Carers Trust