Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn cyflwyno heriau digynsail i deuluoedd bregus, ac mae’n rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau plant.  Mae’r ddogfen yn rhoi arweiniad ynghylch parhau i ddarparu cefnogaeth i blant agored i niwed, plant sydd mewn perygl a phlant sydd â phrofiad o ofal, yn ystod y cyfnod hwn.  Mae’r canllawiau wedi’u llunio ar gyfer pawb sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • hybu llesiant plant agored i niwed, gan gynnwys rhai sydd eisoes â chynllun gofal a chymorth
  • diogelu plant sydd mewn perygl, gan gynnwys y rhai sydd eisoes â chynllun gofal, cymorth ac amddiffyn
  • asesu a chynllunio gofal a chymorth ar gyfer plant sydd â phrofiad o ofal
  • y rhai sy’n creu ac yn adolygu penderfyniadau lleoli ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, ymadawyr gofal a phlant sydd wedi’u mabwysiadu Mae’r canllawiau llawn i’w gweld ar Wefan Llywodraeth Cymru.

Mae’r canllawiau llawn i’w gweld ar Wefan Llywodraeth Cymru.