Prosiect Ymchwil Cyfoedion

Dyddiad Dechrau’r Prosiect

Medi 2023

Dyddiad Cwblhau’r Prosiect

Medi 2024

Manylion Cyswllt

Bethany Turner: Bethany.turner@childreninwales.org.uk

Kate Thomas: Kate.thomas@childreninwales.org.uk

Mae’r prosiect yma’n cael ei ariannu gan y Gronfa Gwybodaeth Gymunedol drwy ein partneriaid, sef Sefydliad Young ac Ymchwil ac Arloesi y Deyrnas Unedig (UKRI). Byddwn hefyd yn gweithio gydag Egin drwy gydol y prosiect ac rydyn ni am ddiolch i'n holl bartneriaid am eu cefnogaeth.

Mae dau gam wedi bod i’r prosiect yma. Yn ystod y cam cyntaf, dewisodd y bobl ifanc y cwestiwn ymchwil ‘Pa bethau sy’n rhwystro pobl rhag bod yn ecogyfeillgar yn ôl cost, oedran, diwylliant, a’r ardal o Gymru mae pobl yn byw ynddi?’. Fe wnaethon ni ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth i’w helpu i ddod yn gyfoedion ymchwil. Fe wnaethon nhw gytuno ar gwestiynau ar gyfer arolwg a grwpiau ffocws ar gyfer eu cyfoedion.

Yn yr ail gam, rydyn ni’n cyflawni’r cynllun yma. Rydyn ni wedi rhyddhau’r arolwg a bydd y bobl ifanc yn dadansoddi hyn eu hunain, gyda chefnogaeth Plant yng Nghymru. Byddan nhw hefyd yn cyd-hwyluso eu grwpiau ffocws eu hunain mewn ysgolion a grwpiau ieuenctid i ateb eu cwestiwn ymchwil yn fanylach.

Yna byddwn yn rhyddhau ein canfyddiadau i'r cyhoedd drwy adroddiad a fydd yn cael ei gyd-gynhyrchu gyda'r bobl ifanc.

 

Nodau:

  • Casglu barn pobl ifanc Cymru am gynaliadwyedd a sut mae hyn yn berthnasol i brofiadau o dlodi.
  • Rhoi'r sgiliau i'r garfan o bobl ifanc ddod yn gyfoedion ymchwil a chynnal ymchwil yn eu cymunedau eu hunain.
  • Cyd-gynhyrchu adroddiad gyda'r cyfoedion ymchwil yn seiliedig ar y canfyddiadau.

Amcanion:

  • Uwchsgilio’r bobl ifanc drwy hyfforddiant i’w galluogi i ddod yn gyfoedion ymchwil.
  • Cwrdd â’r bobl ifanc yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn deall cwmpas y prosiect a’n bod yn eu cefnogi i gyflawni’r nodau sydd wedi’u cytuno.
  • Cynnwys y cyfoedion ymchwil ym mhob cam o'r prosiect, gan gynnwys casglu data, dadansoddi, adrodd a gwerthuso.
  • Sicrhau bod arfer moesegol yn cael ei wreiddio ym mhob cam o’r broses, er mwyn lleihau’r risg o niwed i gyfranogwyr yr ymchwil a’r cyfoedion ymchwil.