Roeddwn yn drist o ddarllen y newyddion am ansolfedd a chau Cyngor Ieuenctid Prydain, partner i Plant yng Nghymru ac eiriolwr pwysig, hirsefydlog dros leisiau pobl ifanc. Heb os, mae hon yn ergyd i bobl ifanc ledled y DU a’r rheini ohonom sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn y penderfyniadau sydd o bwys iddynt.

Fel cydlynwyr rhaglen Senedd Ieuenctid y BYC yng Nghymru, mae fy nghydweithwyr a minnau yn Plant yng Nghymru yn ymwybodol bod y newyddion wedi achosi cryn ansicrwydd i bobl ifanc yng Nghymru a oedd yn ymwneud â’r gwaith hwn, yn ogystal ag i’n partneriaid cyflawni.

Yng ngoleuni’r newyddion am gau BYC rydym wedi bod mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU i drafod sut rydym yn symud ymlaen gyda’n gilydd a lleihau ansicrwydd i’r rhai dan sylw. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad yw sefyllfa BYC yn lleihau gallu plant yng Nghymru i godi llais, a chael eu clywed, ar y materion sydd o bwys iddynt.

Hugh Russell

Prif Weithredwr – Plant yng Nghymru