Wyt ti rhwng 13 a 17 oed ac yn fodlon rhannu dy farn am y pethau da a’r pethau drwg o fod ar-lein? Wyt ti’n angerddol am wneud y byd ar-lein yn lle gwell? Os felly, tyrd i ymuno â'n grŵp ieuenctid.
Sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Ieuenctid Cadw'n Ddiogel Ar-lein er mwyn clywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc am realiti bod ar-lein. Mae'r grŵp yn trafod pynciau a materion y dydd ac yn gwneud awgrymiadau am yr hyn y gallwn ei wneud i helpu i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein.
Rydyn ni’n chwilio am bobl o bob cefndir ac o bob cwr o Gymru. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol na gwybodaeth arbenigol arnat ti, dim ond awydd i leisio dy farn ar bynciau fel dylanwadwyr, deallusrwydd artiffisial, y cyfryngau cymdeithasol a sut gall bod ar-lein effeithio ar dy les.
Mae diogelwch ar-lein yn bwnc llosg sy'n denu diddordeb byd-eang ac rydym yn cynnig cyfle unigryw i chi fod wrth wraidd y sgwrs.
Mae'r prosiect cyntaf yn edrych ar ddeallusrwydd artiffisial a datblygiadau technoleg diweddar o safbwynt person ifanc. Byddwch yn cael cyfle i lunio digwyddiad cenedlaethol a bod yn rhan ohono. Caiff y digwyddiad hwnnw ei gynnal ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024.
Mae'r grŵp yn cyfarfod yn ystod y flwyddyn academaidd a gellir talu am unrhyw gostau teithio neu lety.
Drwy fod yn rhan o'r grwp, byddi di’n:
Anfona ebost i gymryd rhan.
Darllen sylwadau aelod grwp am sesiwn flaenorol.