Aros, Chwarae, Ymlaen yn Gyflym: Taith Plant yng Nghymru: Y Llyfr Hawliau Plant a Ysgrifennwyd gan Bobl Ifanc, ar gyfer Pobl Ifanc

Untitled design (12).png

Ddydd Iau 7 Mawrth 2024, byddwn ni’n dathlu ein pen-blwydd yn 30 yn y Senedd, gyda digwyddiad arbennig sy’n cael ei noddi trwy garedigrwydd Jane Dodds, AS. Bydd ein llyfr dathlu, Aros, Chwarae, Ymlaen yn Gyflym: Taith Plant yng Nghymru, a ysgrifennwyd gan ein gwirfoddolwyr ifanc, yn cael ei lansio’n swyddogol ar y diwrnod hwnnw.  

Meddai Prif Swyddog Gweithredol Plant yng Nghymru, Hugh Russell:

“Mae’r llyfr hwn, a ysgrifennwyd gan bobl ifanc, yn olrhain hanes y sefydliad a’n hymgyrch i sicrhau bod hawliau plant yn ganolog wrth lunio polisi yng Nghymru. Mae’n llawenydd ac yn fraint gallu cefnogi pobl ifanc i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn y digwyddiad hwn, ochr yn ochr â darparu llwyfan i’n cynrychiolwyr etholedig addunedu i barhau i sicrhau bod hawliau plant yn cael lle blaenllaw yn eu meddyliau.”

Mae Aros, Chwarae, Ymlaen yn Gyflym: Taith Plant yng Nghymru yn ffordd unigryw o gyrraedd plant a phobl ifanc yn uniongyrchol, gan siarad yn eu hiaith er mwyn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Gan fod y llyfr wedi’i ysgrifennu gan ein gwirfoddolwyr ifanc, mae’n cyflwyno hawliau plant yn eu geiriau eu hunain, ac yn dod â nhw’n fyw i sicrhau eu bod yn ennyn diddordeb ac yn hawdd eu deall.

Dywedodd Arthur Templeman-Lilley, un o’r gwirfoddolwyr ifanc a fu’n gweithio ar y llyfr:

“Mae Aros, Chwarae, Ymlaen yn Gyflym: Taith Plant yng Nghymru yn dathlu’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud yng nghyswllt hawliau plant yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, ac yn ymrwymo i barhau i eiriol o blaid newid wrth symud ymlaen. Mae’r llyfr wedi cael ei greu gan bobl ifanc, ac fe gawson nhw gyfle i fwydo i bob rhan o’r broses. Fy ngobaith i yw y bydd, o ganlyniad, yn teimlo’n fwy fel sgwrs dryloyw, hygyrch a diddorol rhwng deiliaid hawliau.”

“Rydyn ni am gefnogi pobl ifanc i ddeall eu hawliau, eu grymuso i fynnu cael eu hawliau, a lle bo modd, i sefyll i fyny dros hawliau pobl eraill. Gall fod yn anodd cael hyd i lwybr trwy ein byd ni heddiw, ond os anogwn bawb i edrych trwy lens hawliau plant, mae’n bosib y gallwn ni wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl ifanc yn awr ac yn y dyfodol."

Roedd y gwirfoddolwyr ifanc a fu’n gweithio ar y prosiect eisiau creu llyfr a fyddai’n cyrraedd ac yn grymuso pobl ifanc eraill, gan eu haddysgu am yr hawliau y mae pawb yn eu haeddu ac sydd wedi’u gwarantu iddynt. Fe wnaethon ni ei ddatblygu yn adnodd dwyieithog i’w ddefnyddio’n rhyngweithiol, gyda phosteri ychwanegol y mae modd argraffu copïau papur ohonyn nhw.

Yn y llyfr ei hun, dywedodd Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymroddedig i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu parchu. Nid rhywbeth dewisol mohonynt. Maent yn ddiamau yn rhan o wead cymdeithas yng Nghymru, ac rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod holl blant Cymru yn cael y profiad gorau mewn bywyd.”

Mae’r llyfr, a luniwyd gan Cactus Design, gyda lluniau gan Matt Joyce, yn darlunio stori Plant yng Nghymru, yn ogystal â hanes hawliau plant. Rydyn ni’n dadansoddi egwyddorion cyffredinol CCUHP, gan esbonio sut mae pob un ohonynt yn ymwneud â phobl ifanc a pham maen nhw mor bwysig. Mae cwisiau a gweithgareddau rhyngweithiol wedi’u cynnwys hefyd, i gynnal diddordeb plant a phobl ifanc, ac mae hynny’n sicrhau eu bod yn amsugno’r cynnwys yn llwyr.

Bellach gallwch chi lawrlwytho Aros, Chwarae, Ymlaen yn Gyflym: Taith Plant yng Nghymru trwy ddefnyddio’r ddolen yma.

I fedru mynnu eich hawliau, mae’n rhaid i chi ddeall yn gyntaf pa hawliau sydd gennych. Rydyn ni’n gobeithio bydd y llyfr hwn yn helpu i addysgu a grymuso plant a phobl ifanc i sicrhau bod eu holl hawliau’n cael eu gwireddu.