Mae Plant yng Nghymru wrth eu bodd eu bod wedi derbyn cyllid gan gronfa grant Gwirfoddoli Cymru a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) ar ran Llywodraeth Cymru a fydd yn creu cyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc 11-25 oed ledled Cymru. Bydd yr arian grant yn ein galluogi ni i recriwtio cydlynydd gwirfoddolwyr profiadol i weithio gyda phobl ifanc i lunio'r cynllun, gan helpu gwirfoddolwyr ifanc i ennill profiad hanfodol a sgiliau i'w helpu dod o hyd i gyflogaeth yn y dyfodol. Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru, "Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi derbyn yr arian hwn gan CGGC er mwyn datblygu'n bellach ein gwaith gwirfoddoli gyda phobl ifanc. Rydym yn gyffrous i ddatblygu rhaglen o waith mewn cydweithrediad â phobl ifanc o bob cwr o Gymru." Cadwch lygaid mas am newyddion pellach a chyfleoedd gwirfoddoli ar ein gwefan, ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a thrwy Wirfoddoli Cymru. Cysylltwch â caroline.taylor@childreninwales.org.uk gydag unrhyw ymholiadau.

 

Vol Logo.png