Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2023 - Dydd Llun 30 Ionawr – Dydd Sul 5 Chwefror

Cymrwch ran yn Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2023 a dechreuwch y sgwrs am ddemocratiaeth a gwleidyddiaeth gyda phobl ifanc rydych yn gweithio â nhw.

Ar gyfer 2023, thema Wythnos Croeso i Dy Bleidlais yw ‘ein democratiaeth’. Rydym yn pwysleisio bod democratiaeth i bawb, a bod democratiaeth yn digwydd o’n hamgylch.

Rydym yn gofyn i athrawon ac addysgwyr i helpu pobl ifanc i ddysgu mwy am eu democratiaeth a’u pleidlais drwy ddarparu addysg ddemocrataidd yn ystod yr wythnos. Defnyddiwch ein hadnoddau i redeg gweithgaredd i drafod beth mae democratiaeth yn ei olygu, a sut y gall pawb gymryd rhan a dweud eu dweud.

I gymryd rhan yn yr wythnos, pam na wnewch chi gyflwyno gwers, gwasanaeth, ymgyrch cofrestru, diwrnod democratiaeth oddi ar yr amserlen, ychydig o weithgareddau byr neu unrhyw ddigwyddiad addysg ddemocrataidd arall? Anogwch eich pobl ifanc i ddweud eu dweud drwy eu gwahodd i roi mewnbwn i gynlluniau Wythnos Croeso i Dy Bleidlais.

Cofrestrwch i fod yn rhan o’r wythnos a derbyniwch eich adnoddau Wythnos Croeso i Dy Bleidlais sy’n lawrlwythadwy ac yn rhad ac am ddim - maent yn cynnwys sleidiau cyflwyniad, graffigau cyfryngau cymdeithasol a phosteri.

Rhannwch eich gweithgareddau gyda #CroesoIchPleidlais.

WTYVW_Learn1_Twitter_Green.png