Mae Plant yng Nghymru wedi anfon llythyr at yr ymgeiswyr a enwebwyd i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru, yn galw arnyn nhw i benodi Gweinidog Plant penodol, dynodedig i gabinet Llywodraeth Cymru. Ystyr hynny yw gweinidog penodol sydd â chyfrifoldeb am fabanod, plant a phobl ifanc fel y cydnabyddir gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Un o dasgau cyntaf Prif Weinidog nesaf Cymru fydd penodi ei gabinet newydd. Mae hynny’n gyfle i adolygu personél ac aelodaeth y cabinet presennol, yn ogystal â dyraniad portffolios a theitlau gweinidogol.

Mae’n gyfle i ystyried ble gellid gwneud newidiadau i gryfhau atebolrwydd a gwneud addasiadau sy’n ymateb yn well i anghenion a galwadau’r boblogaeth, gan gynnwys plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Gweledigaeth Plant yng Nghymru yw Cymru lle mae holl hawliau pob baban, plentyn a pherson ifanc yn cael eu cyflawni. Rydyn ni’n credu y dylai penodi Gweinidog Plant i gabinet Llywodraeth Cymru fod yn flaenoriaeth allweddol i Brif Weinidog nesaf Cymru, er mwyn ein helpu i sicrhau cynnydd at y nod hwnnw.
 

Gallwch ddarllen y llythyr llawn isod.