Breswyl Sefydlu Cymru Ifanc 2022

Yn fis Mai roedd Cymru Ifanc yn falch i groesawu grŵp o bobl ifanc o ledled Cymru I fynychu ei’n breswyl sefydlu. Mae’r holl bobl ifanc wedi arwyddo i fod yn aelodau o’r bwrdd prosiect Cymru Ifanc, grwpiau diddordeb arbennig a'r Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol.

Dros y penwythnos wnaeth Cymru Ifanc gyflwyno hyfforddiant ar:

Hawliau Plant

Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol

Deddf Plant

Gwaith Tîm a Meithrin Hyder

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Bod yn Aelod o Fwrdd neu Grŵp, Mentora Cymheiriaid a Gwirfoddoli

Ysgrifennu Creadigol a Chynhyrchu Cynnwys Digidol

Cafodd y bobl ifanc gyfleoedd hefyd i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar 4 gweithgaredd ymgynghori gwahanol.

I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â'r bwrdd neu grwpiau Cymru ifanc cysylltwch ag: Tegan.waites@childreninwales.org.uk