Gweminar Arolwg Blynyddol Tlodi Plant a Theuluoedd 2023

Yn y weminar hon clywodd cynryciolwyr am ganfyddiadau allweddol o Adroddiad Arolwg Blynyddol Plant a Theuluoedd Plant a Theuluoedd Plant yng Nghymru.  

Bellach yn ei seithfed flwyddyn, mae'r arolygon yn ceisio cael mwy o ddealltwriaeth o'r ffeithiau a'r profiadau byw y tu ôl i'r ffigurau, a'r effaith y mae tlodi yn ei chael ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.  Yn hollbwysig, mae'r arolygon yn caniatáu i blant, pobl ifanc, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol rannu eu barn a'u profiadau o dlodi yng Nghymru ac amlygu'r materion sy'n cael eu hwynebu ar hyn o bryd, yn ddyddiol.

Hefyd, clywodd gynrychiolwyr bod ystadegau cyfredol yn dangos bod 28% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi ac mae pob awdurdod lleol yn parhau i brofi cyfraddau uchel o dlodi plant.  Er ei bod yn ymddangos bod y gyfradd tlodi plant wedi gostwng yn ystod cyfnod adrodd 2023, yn anffodus ychydig iawn o 'newyddion da' sy'n adlewyrchu hynny yn yr adroddiad hwn.  Unwaith eto, mae ymarferwyr yn rhannu darlun llwm o'r effaith y mae tlodi yn ei chael ar filoedd o blant a phobl ifanc ledled Cymru. Mae'n gwbl annerbyniol, mewn saith mlynedd, ers i'r arolygon blynyddol hyn ddechrau, y gellid dadlau mai ychydig iawn sydd wedi newid i'n plant a'n pobl ifanc.

"Diolch am gyflwyno'r dystiolaeth hanfodol hon o brofiad byw plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru"

"Roedd cael y dyfyniadau gan blant yn ei gwneud yn fwy real ac effeithiol"