Hanesion a theithiau rhieni

Hanesion a theithiau rhieni

Dyma gyfle i wrando ar daith bywyd go iawn rhieni o’r Rhwydwaith Rhieni yng Nghaerffili a Thrinant, a sut cawson nhw eu grymuso i gymryd rhan a chael llais. Cafodd y fideos a’r hanesion sain yma eu cynhyrchu ar y cyd gan Plant yng Nghymru a’r Rhwydwaith Rhieni.

Grwp o rieni o’r Rhwydwaith Rhieni sydd yma, yn rhannu eu profiadau personol o gael eu cynnwys a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.


 

Mae Charlotte wedi trechu gorbryder cymdeithasol, ac wedi meithrin ei hyder a’i hunan-barch. Mae bellach yn aelod gweithredol o’r gymuned, yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau. Mae’n mynd ati i fod yn rhan o ymgyngoriadau, ac yn sicrhau bod ei llais yn cael ei glywed.

Gan Kaylee clywn sut roedd ei thrafferthion yn ystod yr 13 mlynedd diwethaf wedi’i gadael mewn lle tywyll, nes iddi ddechrau mynd i’r Rhwydwaith Rhieni a datblygu ei hyder. Mae bellach yn mwynhau helpu rhieni eraill a’u cefnogi. 

Cafodd Sian wahoddiad i ymuno gan grŵp o ffrindiau. Roedd hi’n swil ar y cychwyn, ond ar ôl y gefnogaeth mae wedi’i chael, mae ei hyder wedi cynyddu, ac mae bellach yn wirfoddolwr ac yn hyfforddi i fod yn Hyrwyddwr Rhieni.
 

Daeth Cheryl i’r Rhwydwaith gyntaf 10 mlynedd yn ôl, ac ers hynny mae wedi mynd ymlaen i wirfoddoli i helpu rhieni eraill ac i fod yn eiriolydd dros bobl ag anghenion ychwanegol. Mae’r Rhwydwaith wedi helpu Cheryl i weld pobl a thrin pobl yn wahanol, ac i werthfawrogi beth sydd ganddi.

Gadawodd Shauna yrfa trin gwallt ac ymuno â’r Rhwydwaith fel Gweinyddwr Iau, ac mae bellach yn aelod allweddol o staff sy’n mwynhau ymateb i heriau newydd. Mae wedi tyfu gymaint fel person ac wrth ei bodd yn ei gwaith, sydd wedi golygu bod ei theulu cyfan wedi elwa a datblygu hyder.

Mae Kristalee yn gwella ar ôl bod yn gaeth i ganabis, ac mae’n wynebu anawsterau iechyd meddwl difrifol. Ers ymuno â’r Rhwydwaith Rhieni mae wedi gweld sut brofiad yw cael ei chefnogi a’i hannog i godi llais a rhannu ei barn, ac mae wedi mynd ymlaen i gefnogi rhieni eraill a dod yn wirfoddolwr.

Mae Amy yn rhannu ei thaith o fod yn rhiant yn mynychu’r Rhwydwaith, i fod bellach yn Gydlynydd Datblygu i’r Rhwydwaith ac yn mwynhau bod yn rhan o rywbeth mae hi’n wir yn credu ynddo.

 

Mae Rachel yn rhannu ei thaith ryfeddol o fynd i fore coffi i ennill un o wobrau Coroni’r Brenin am wirfoddoli.  

 

Cyn i Jennifer ddod i’r Rhwydwaith Rhieni, roedd hi’n brin o hyder, ond ar ôl mynychu’r grwpiau mae wedi tyfu fel person, ac wedi gwneud pethau nad oedd hi byth wedi meddwl byddai hi’n eu gwneud, er enghraifft, gwisgo i fyny fel anghenfil. Mae Jennifer bellach wedi darganfod ei hun, ac mae mewn lle hapus.

Mae Carla yn rhannu ei stori a’i thaith, o’r heriau a brofodd, i wirfoddoli a bod yn Hyrwyddwr Rhieni. Mae’r Rhwydwaith wedi darparu cyfle i wneud pethau gyda’i phlant na fuasai ganddi’r dewrder na’r arian i’w gwneud ar ei phen ei hun, gan ddatblygu ei hyder a’i rhwydwaith cefnogi.

Ers bod yn bresennol am y tro cyntaf a phrofi awyrgylch hamddenol, cyfeillgar, dyw Joanna ddim wedi edrych yn ôl. Mae’r Rhwydwaith wedi meithrin ei hyder a’i hunan-barch, ac wedi rhoi profiadau newydd iddi hi. Mae Joanna bellach yn trefnu digwyddiadau cymunedol, gan gynnwys sioeau doniau a charnifalau, a fyddai hi ddim lle mae hi nawr heb help a chefnogaeth y Rhwydwaith.