Cymryd Rhan a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed

Cynhaliodd Cyswllt Rhieni Cymru ddau grŵp ffocws gyda’r Rhwydwaith Rhieni yn Nhrinant a Chaerffili. Mae’r rhieni a fu’n cymryd rhan yn y rhain eisoes yn ymwneud â chyfranogiad rhieni.

Defnyddiwyd eu mewnwelediad uniongyrchol a’u syniadau i greu’r adnoddau poster yma, a gynhyrchwyd ar y cyd, ar gyfer sefydliadau sy’n awyddus i gynnwys rhieni.  

Cafodd yr adnoddau poster oedd wedi’u bwriadu ar gyfer rhieni eu trosi i 5 iaith gymunedol allweddol yn ogystal.  

Dylai rhieni gael llais

Poster yn dangos pam dylai rhieni gael llais a bod yn rhan o wneud penderfyniadau am eu plant.

Lefelau cyfranogiad

Poster yn rhannu syniadau gan rieni ynghylch sut mae ymgysylltu â nhw.

Gwahanol ffyrdd o gymryd rhan

Poster yn dangos y gwahanol ffyrdd y gall rhieni gymryd rhan a lleisio barn.

Awgrymiadau gwych (i rieni)

Poster yn rhannu awgrymiadau gwych gan rieni a’u profiadau o gymryd rhan.

Awgrymiadau gwych (i weithwyr proffesiynol)

Poster yn rhannu awgrymiadau gwych i weithwyr proffesiynol ar gyfer cynnwys rhieni mewn prosiectau.

Ffyrdd o gefnogi rhieni ac ymgysylltu â nhw

Rhieni’n rhoi rhai awgrymiadau ymarferol fydd yn helpu i’w cynnwys.