Llais y Baban

‘Mae gan fabanod gymaint i’w ddweud wrthyn ni os dysgwn ni sut i wrando’

Dywed Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn:

“Mae gan bob plentyn yr hawl i fynegi eu barn, eu teimladau a’u dymuniadau ar bob mater sy’n effeithio arnyn nhw, ac i’w safbwyntiau gael eu hystyried a’u cymryd o ddifri”

Mae babanod yn gyfathrebwyr tra medrus ac mae ganddyn nhw lais y mae’n rhaid gwrando arno. Caiff y llais hwnnw ei glywed a’i weld yn y seiniau a’r symudiadau maen nhw’n eu gwneud, yn eu hymateb i’r amgylchedd a’u hymwneud â’r bobl o’u cwmpas.

Mae gan fabanod ffyrdd unigryw o fynegi eu hunain yn ddieiriau. Gall hynny fod trwy seiniau, ond hefyd yn gorfforol; trwy iaith y corff megis ymestyn neu nodio’r pen, neu drwy fynegiant wyneb fel gwenu.

Gall babanod fynegi eu bod nhw’n teimlo’n llwglyd, wedi blino, yn fodlon eu byd neu’n ofnus, felly dylid rhoi’r hawl iddynt fynegi eu safbwyntiau, eu teimladau a’u meddyliau ar y pethau sy’n bwysig iddyn nhw ac i’r rheiny gael eu hystyried a’u cloriannu gan yr oedolion sy’n gofalu amdanynt a rhanddeiliaid eraill wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Mae gennym ni gyfrifoldeb i chwilio am ffyrdd creadigol o hwyluso hyn. I gael gwybod mwy am sut y gallwn ni wrando ar fabanod, ewch i - Plant yng Nghymru | Adnoddau Blynddoedd Cynnar

Gwrando ar Lais y Baban

Defnyddio dulliau creadigol i gefnogi dealltwriaeth o lais y baban a gwella’r berthynas rhwng rhiant a baban